Floreat Etona

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Rwy'n amau weithiau fy mod wedi treulio cryn dipyn o amser yn fy arddegau yn teithio ar y bws ysgol mwyaf dylanwadol yn hanes Cymru, Yn dal y bws ar yr un stop a fi roedd y bardd Gwyneth Lewis, y cyfarwyddwr ffilm Marc Evans, y cyn Aelod Cynulliad a darpar ymgeisydd seneddol Delyth Evans a'i chwaer fawr Carys sy'n gwneud pethau cythreulig o bwysig i Lywodraeth Cymru.

Roedd 'na ddigon o enwau cyfarwydd eraill yn ymuno a'r bws mewn llefydd eraill. Does dim pwrpas ei henwi nhw gyd - chi'n gweld y pictiwr. Pe bai'r bws yna wedi plymio i afon Taf rhywle rhwng Caerdydd a Rhydyfelin fe fyddai Cymru'n lle ychydig bach yn wahanol heddiw. P'un ai y byddai hi'n well neu'n waeth le sy'n fater arall!

Efallai nad wyf yn gwbl gymwys felly i farnu os oes gan elit Eton ormod o afael ar lywodraeth David Cameron. Serch hynny rwyf yn gwybod hyn. Fe fydd ymosodiadau Michael Gove a Sayeeda Warsi ar y llond pwnt o Etonwyr sy ei morio hi yn rhif deg yn cynddeiriogi strategwyr y Ceidwadwyr ac mae'n debyg bod y Prif Weinidog eisoes wedi rhoi llond ceg i'r Ysgrifennydd Addysg.

Does ond angen nodi'r ffordd y mae disgrifiad Nadine Dorries o Cameron a'i Ganghellor fel "two arrogant posh boys" wedi treiddio i feddyliau'r cyhoedd i wybod bod hwn yn bwnc sy'n wleidyddol wenwynig i'r Torïaid. Fe fyddai'n ddigon rhesymol i David Cameron gredu bod sylwadau Gove a Warsi yn ffolineb ac o bosib yn ymylu ar frad - yn enwedig ar drothwy'r gyllideb.

Fel sy'n digwydd ar ôl pob cyllideb fe fydd 'na ornest ddifrifol dros y dyddiau nesaf i fframio'r cyhoeddiadau mewn modd sy'n ffafrio'r Llywodraeth neu sy'n niweidiol iddi. Fe fydd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio canolbwyntio'r sylw ar fesurau sy'n rhoi cymorth i'r tlawd a'r canol cywasg tra bydd y gwrthbleidiau'n pwysleisio unrhyw gymorth sy'n cael ei roi i'r cefnog.

Mae portreadu llywodraeth fel criw bach o gyfeillion hynod gyfoethog sy'n llywodraethau er budd eu dosbarth yn dacteg a fyddai'n ddigon cyfarwydd i Keir Hardie. Mae'n rhyfeddol braidd ei bod hi'n ymddangos ei bod yn effeithiol i Lafur yn yr unfed ganrif ar hugain - diolch yn rannol i Gove, Warsi, Dorries a'u tebyg.