Cau Clwyd
- Cyhoeddwyd
- comments
O am fod yn bry ar wal yn y cyfarfod lle'r oedd aelodau Llafur y Cynulliad yn penderfynu p'un ai i ganiatáu i Ann Clwyd ymddangos gerbron y Pwyllgor Iechyd ai peidio.
Gallaf ddychmygu'r dadleuon. Fe fyddai gwrthod cais y gwrthbleidiau i glywed gan aelod seneddol Cwm Cynon yn ymddangos yn Stalinaidd - yn enwedig o gofio ei bod hi'n aelod o'r un blaid â nhw. Ar y llaw arall fe fyddai newyddiadurwyr yn ciwio am y popcorn pe bai Mrs Clwyd yn ymddangos gerbron y pwyllgor.
Yn y diwedd penderfynodd y blaid i ddioddef anfri heddiw er mwyn osgoi'r syrcas i ddod gan ddefnyddio ei mwyafrif i flocio ymddangosiad gan ei merch afradlon.
Serch hynny, mae'r penderfyniad yn un rhyfeddol.
Dyma i chi fenyw sydd yng nghanol storom wleidyddol ynghylch safon y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - menyw sy'n destun trafod cyson yn y Cynulliad. Roedd hi'n aelod o fwrdd ysbytai Cymru ac o'r unig Gomisiwn Brenhinol i ymchwilio i'r Gwasanaeth Iechyd. Fe'i penodwyd gan David Cameron i ymchwilio i'r system gwynion y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr ac mae'n honni bod ganddi dystiolaeth o wendidau sylfaenol yn ein hysbytai.
Sut ar y ddaear mae cyfiawnhau peidio ei galw i ymddangos gerbron y pwyllgor sydd i fod i graffu i gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru? Os nad Ann - pwy?
Yn y cyd-destun hwn - mae'n werth cofio'r hyn ddywedodd Carwyn Jones yn ei sesiwn gwestiynau wythnos ddiwethaf.
"Nid yw Ann Clwyd wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth nac unrhyw ffeithiau. Rwyf wedi gofyn iddi, ac mae'r Gweinidog iechyd wedi gofyn iddi. Nid yw hi wedi cyflwyno unrhyw beth heblaw am sylwadau dienw na ellir eu priodoli—nid ydym yn gwybod o ble maen nhw'n dod, pa un a ydynt yn gywir ai peidio, ac ni ellir eu hymchwilio. Rwy'n ofni ein bod wedi gofyn iddi ar fwy nag un achlysur i gyflwyno'r dystiolaeth i gefnogi ei honiadau. Rwyf i wedi gwneud hynny. Mae'r Gweinidog iechyd wedi gwneud hynny. Rwyf i wedi gofyn iddi'n bersonol ac yn ysgrifenedig. Nid yw wedi gwneud hynny."
Onid pwyso a mesur tystiolaeth yw holl bwrpas pwyllgor craffu? Os ydy'r llywodraeth mor hyderys nad oes tystiolaeth gan Ann Clwyd - pam peidio caniatau i'r pwyllgor gadarnhau hynny?
Diweddariad; Ar ôl cyhoeddi'r post hwn derbyniais ddatganiad gan Leighton Andrews sy'n aelod o'r pwyllgor. Dyma ran ohono.
"Mae aelodau'r gwrthbleidiau yn ymwybodol y byddai'n gyfansoddiadol amhriodol i'r Pwyllgor Iechyd gyfweld ac aelod seneddol meinciau cefn ynghylch ei safbwyntiau ynghylch pwnc datganoledig - byddai neb yn disgwyl i aelodau cynulliad meinciau cefn ymddangos gerbron pwyllgor seneddol."