Ganllath o gopa'r mynydd

Flwyddyn union i ddoe fe fydd y senedd a etholwyd y 2010 yn cwrdd am y tro olaf ac fe fydd aelodau seneddol yn clirio eu desgiau - nifer ohonynt am y tro olaf. Flwyddyn i heddiw gallwn ddisgwyl gweld y pleidiau yn lansio eu hymgyrchoedd yn swyddogol.

Mae'r cloc yn tician a phe bai'r etholiad yn cael ei gynnal yfory mae'r arolygon yn awgrymu y byddai Llafur yn ennill gyda mwyafrif dros bawb o ryw ddeg ar hugain o seddi.

Dyw'r fantais Llafur ddim yn enfawr ond mae'n ymddangos yn rhyfeddol o wydn. Mae Llafur wedi bod ar y blaen byth ers cyllideb yr 'omnishambles' ac mae'n dipyn o ryfeddod i mi bod cymaint o drigolion swigen San Steffan o hyn yn credu bod George Osborne yn rhyw fath o athrylith wleidyddol - o gofio mai fe oedd yn gyfrifol am honna!

Mae'r wobr o fewn cyrraedd Llafur felly. Mae'r copa mewn golwg ond fel y mae unrhyw ddringwr yn gwybod y cymal olaf yw'r anoddaf yn amlach na pheidio.

Yn fras mae Llafur yn wynebu dewis strategol. Pe bai'r fantais Llafur yn fwy, strategaeth 'pwyll pia'i hi' fyddai'n rhesymegol. Pe bai'r Ceidwawyr ar y blaen yna fe fyddai 'na ddim dewis ond cymryd ambell i risg gyda pholisïau beiddgar a dulliau ymgyrchu arbrofol. Gyda'r polau lle maen nhw dyw e ddim yn eglur pa lwybr sydd orau.

Mae 'na ddigon o bobol o fewn y blaid Lafur sy'n poeni eu boliau nad oes gan y blaid unrhyw fath o raglen lywodraethol hyd yma. Yr ofn yw y bydd hygrededd Llafur fel llywodraeth bosib yn raddol ddadmer wrth i'r economi wella.

Mae eraill yn ddigon jocôs ynghylch cyrraedd yr etholiad gyda hanner dwsin o bolisïau symbolaidd gan ddibynnu ar amhoblogrwydd y Glymblaid a gogwydd Llafur y system etholiadol i wneud y gwaith.

Rwy'n amau taw'r ail garfan sydd yn ennill y ddadl ar hyn o bryd. Wedi cyfan, dyw'r ffaith mai newid i'r setliad datganoli oedd yn unig gyhoeddiad o bwys yng nghynhadledd Gymreig y blaid ddim yn awgrymu bod 'na gwpwrdd yn llawn o bolisïau newydd sbon danlli yn swyddfa'r arweinydd.