Mentro Swllt

Un arwydd pendant fod etholiad ar y gorwel yw bod ods etholaethau unigol yn ymddangos yn siopau'r bwcis ac ar eu gwefannau.

Nawr dydw i ddim yn ddyn betio ond mae record y marchnadoedd gamblo o safbwynt proffwydo canlyniadau unigol yn un bur dda - hynny oherwydd bod y rheiny sy'n mentro'u harian yn aml yn bobl sydd â gwybodaeth leol ynghylch ras arbennig.

Megis cychwyn mae'r betio ond eisoes mae 'na ambell i batrwm diddorol yn datblygu. Mae pyntars Ladbrokes, er enghraifft, yn credu bod gan Blaid Cymru well siawns o gipio Ceredigion (2-1) na sydd gan y Ceidwadwyr o gadw Gogledd Caerdydd (4-1). Nid fy lle i yw dweud a ydwyf yn cytuno â hynny ai peidio!

Ond os oedd unrhyw un yn gofyn am fy nghyngor ynghylch lle i fentro swllt neu ddau byswn yn ei bwyntio i gyfeiriad Brycheiniog a Maesyfed ac yn tynnu ei sylw at yr ods ar fuddugoliaeth Lafur sef 50-1.

Nawr, peidiwch â meddwl am eiliad fy mod am ddarogan y bydd Llafur yn ennill yr etholaeth yn etholiad 2015 - ond mae'r wobr y mae'r bwcis yn ei chynnig yn werth ei hystyried.

Dyw rhesymeg y bwcis ddim yn anodd deall. Dyma i chi ganlyniad Brycheiniog a Maesyfed yn etholiad 2010.

Democratiaid Rhyddfrydol 17,929 (46.2%)

Ceidwadwyr 14,182 (36.5%)

Llafur 4,096 (10.4%)

Methodd yr un ymgeisydd arall ennill dros fil o bleidleisiau.

Gyda chefnogaeth i Lafur o ychydig dros ddeg y cant yn 2010 a'r blaid wedi methu â gwneud marc hyd yn oed yn ei hanws mirabwlws yn 1997 mae'n ddigon teg efallai i'r bwcis gredu bod gobeithion Llafur yn etholaeth ddeheuol Powys yn debyg i rai mul yn Grand National!

Digon teg, efallai, ond cwbwl anghywir yn fy marn i. Dyma pam.

Mae'n werth cofio i ddechrau mai sedd Lafur oedd Brycheiniog a Maesyfed o 1945 tan 1979.

Yn y flwyddyn honno fe drosglwyddwyd pentrefi glofaol Brynmawr a Chefn Coed y Cymmer o Frycheiniog a Maesyfed i Glyn Ebwy (Blaenau Gwent ein dyddiau ni) a Merthyr. Serch hynny, roedd Llafur o hyd yn gystadleuol er i Caerwyn Roderick (dim perthynas) golli'r sedd.

Ceidwadwyr 22,660 (47.2%)

Llafur 19,633 (40.92%)

Rhyddfrydwyr 4,654 (9.70%)

Chwe blynedd yn ddiweddarach cynhaliwyd isetholiad cofiadwy yn yr etholaeth. Rwyf fi a sawl un arall o'r farn hyd heddiw y byddai Llafur wedi ennill hwnnw onibai am ymyrraeth wallgof Arthur Scargill ar drothwy'r pleidleisio lle fynnodd y byddai buddugoliaeth i Lafur yn gyfystyr a chwymp y Bastille, chwyldro'r Hydref neu rywbeth felly!

Dydw i ddim yn cofio yn union beth ddywedodd Llywydd y Glowyr ond gyda ffrindiau fel Arthur does dim angen gelynion arnoch chi ac yn annisgwyl braidd y Rhyddfrydwyr a orfu gyda Llafur yn ail a'r Ceidwadwyr yn drydydd.

Byth ers hynny mae'r Rhyddfrydwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi'r wasgfa ar Lafur trwy barablu'n ddi-ben-draw am "rasys dau geffyl" a defnyddio'r siartiau bar yna y mae'r blaid felen mor hoff ohonyn nhw.

Ond a fydd dacteg felly yn gweithio yn Ystradgynlais, dyweder, yn 2015? Yr ateb syml yw dydw i ddim yn gwybod. Dydw i ddim yn gwybod chwaith beth fydd effaith twf Ukip ar yr ornest.

Y cyfan rwy'n dweud yw hyn. Heb os Roger Williams yw'r Tea for Three ym Mrycheiniog a Maesyfed ond ni ddylid diystyru'r posibilrwydd y gallasai Llafur fod yn Pineau De Re!