Genau'r Glyn

Rhyw ddeng mlynedd yn ôl penderfynais fod hi'n bryd enwi fy nhŷ. "Dirgelfan" yw'r enw ond does 'na ddim llechen yn cyhoeddi hynny. Pam? Wel, oherwydd ei fod e'n ddirgel, wrth reswm!

Rwy'n rhannu'r gyfrinach â chi nawr oherwydd bod fy nghyfaill Glyn Mathias yn datgelu'r stori y tu ôl i'r enw yn ei hunangofiant "Raising an Echo, dolen allanol" a gyhoeddir heddiw gan y Lolfa.

Mae'r enw'n deillio o'r dyddiau yn sgil giamocs Ron Davies ar Clapham Common a'i benderfyniad i ymddiswyddo o Gabinet Tony Blair am resymau oedd yn gwbwl aneglur - os oedd fersiwn Ron o'r hyn ddigwyddodd yn gywir.

Gyda hanner deiliaid Fleet Street yn hela'r sgwarnog daeth neges gan Ron yn dweud ei fod yn fodlon cael ei holi gan y cyfryngau Cymreig - ond dim ond mewn man lle na fyddai modd i'r helfa ddod o hyd iddo.

Ystafell ffrynt fy nhŷ amdani felly - ac felly hefyd yr enw "Dirgelfan"!

Mae straeon llawer gwell gan Glyn yn ei lyfr - ond ei eiddo fe yw'r rheiny ac fe fydd yn rhaid i chi brynu neu fenthyg y gyfrol er mwyn eu gwerthfawrogi.

Yn y cyfamser byddaf yn holi Glyn am ei fywyd yn Neuadd y Dref, Aberhonddu heno (Mai'r 1af) am saith o'r gloch. Mynediad am ddim! Croeso i bawb!