Os Gofynnwch Pam Rwy'n Hapus

Pythefnos i fynd, felly. Mae'r werddon ar y gorwel a gobaith cael dracht o ddŵr etholiadol ar ôl crwydro'r anialdir cyhyd.

Iawn, dim ond etholiadau Ewrop yw'r rhain ac mae'n anodd cyffroi gormod yn eu cylch ond ar ôl cyfnod mor hesb mae unrhyw bleidlais yn falm i enaid newyddiadurwr gwleidyddol. Ac unwaith mae bws Brwsel wedi ei lenwi mae gornestau eraill yn dod fel bysus Cowbridge Road East, un ar ôl y llall, rhwng nawr ac etholiad Cynulliad 2016.

Refferendwm yr Alban ym mis Medi yw'r bwysicaf yn hanes y deyrnas hon, o bosib, ac mae'r etholiad fydd yn dilyn yn 2015 yn un sy'n hynod o anodd darogan yn ei gylch. Fe ddaw etholiad y cynulliad nesaf ac wedyn, o bosib, refferendwm arall - y tro hwn un 'mewn neu mas' ynghylch Ewrop.

Fe fyswch yn disgwyl felly bod y pleidiau i gyd a than yn ei boliau ac yn barod am y frwydr.

Nid felly mae pethau.

Rwyf wedi son o'r blaen am y problemau anorfod sy'n wynebu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil eu penderfyniad i glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr ond mae 'na blaid arall sy'n ei chael hi'n anodd iawn i ddenu darpar ymgeiswyr ar hyn o bryd. Y blaid Geidwadol yw'r blaid honno.

Mae deryn bach wedi sibrwd yn fy nghlust bod y blaid wedi methu dod o hyd i ymgeiswyr ar gyfer 2015 a 2016 mewn nifer sylweddol o seddi. Nid sôn am Flaenau Gwents a Rhonddas y byd yma ydw i yn fan hyn ond seddi pur addawol - llefydd fe De Caerdydd a Phenarth ar lefel seneddol a Bro Morgannwg yn etholiad y Cynulliad.

Erbyn mis Medi'r llynedd roedd aelodaeth y blaid wedi gostwng i 134,000, ychydig dros hanner y nifer oedd yn aelodau pan etholwyd David Cameron yn arweinydd yn ôl yn 2005. Fe ymunodd rhai â'r nefol gôr, eraill ac Ukip, ond nid y gostyngiad yn nifer yr aelodau sy'n bennaf gyfrifol am y prinder ymgeiswyr.

Yn sgil sgandalau gwleidyddol y ugain mlynedd diwethaf cyflwynodd y blaid system newydd i ddewis ymgeiswyr. Mae hynny'n golygu bod cymdeithasau ond yn cael dewis ymgeisydd sydd ar restr o bobol gymwys a lunnir gan y swyddfa ganolog yn Llundain.

Mae cyrraedd y rhestr honno yn gallu bod yn broses hirfaith, anodd a drud. Rhaid yw sicrhau llythyrau geirda gan Geidwadwyr eraill, llenwi holiaduron manwl, wynebu panelu dewis a mynychu penwythnosau 'cwrdd i ffwrdd' mewn gwestai drud.

Nawr, os oeddech chi'n awchu i ennill enwebiad Mynwy efallai y byddai'n werth wynebu'r holl gythrwfl. Ond os oeddech chi'n berson oedd yn fodlon sefyll fe ffafr i'r blaid yn y Rhondda neu hyd yn oed De Caerdydd a Phenarth mae'n ddigon posib y byddai'r rhwystrau yn ddigon i wneud i chi ail-feddwl.

Nid yng Nghymru yn unig mae'r broblem yn bodoli. Yn ôl ymchwil gan yr Independent, dolen allanol mae'r Torïaid ond wedi dewis ymgeiswyr ar gyfer 41 allan o'r 75 sedd fwyaf ymylol sydd yn nwylo eu gwrthwynebwyr.

Mae hynny'n sefyllfa ryfeddol flwyddyn cyn etholiad - ac yn un a allai gosti'n ddrud i'r blaid.