Ewropa Ewropa

Un wennol ni wna wanwyn ac un arolwg ni wna Afallon i gefnogwyr yr Undeb Ewropeaidd. Serch hynny rwy'n ystyried canlyniadau arolwg diweddaraf Ipsos Mori, dolen allanol yn hynod ddiddorol.

Holwyd 1,003 o oedolion ar drawn Prydain rhwng y 10fed ar 12fed o Fai ac ar ol cymhwyso'r sampl roedd 54% o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd a 37% yn deisyfu gadael.

Mae hynny'n wahanol iawn i'r sefyllfa yn ôl ym mis Tachwedd pan oedd 48% am dynnu allan a dim ond 44% yn dymuno aros i mewn.

Mae'r patrwm ychydig yn wahanol o ystyried canlyniadau YouGov, dolen allanol sy'n gofyn y cwestiwn yn fisol. Yn ôl ym mis Tachwedd roedd y ddau safbwynt yn gydradd a'i gilydd gyda'r mewn a'r mas yn denu cefnogaeth 44% o'r rheiny a holwyd. Doedd y sefyllfa ddim wedi newid rhyw lawer pan ofynnwyd y cwestiwn bythefnos yn ôl gyda'r ddwy ochr o fewn pwynt i'w gilydd.

Ond hyd yn oed o dderbyn darlun llai eglur YouGov yr hyn sy'n amlwg yw nad yw'r cynnydd yn y gefnogaeth i Ukip wedi arwain at gynnydd yn y nifer a fyddai'n pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fe ddylai hynny peri pryder i'r rheiny sydd am dynnu allan.

Mae 'na hen ddigon o dystiolaeth, nid yn unig o Brydain ond yn rhyngwladol hefyd bod pleidleiswyr yn tueddu symud tuag at gadw'r statws quo wrth i refferendwm nesu. Gallasai refferendwm yr Alban fod yn eithriad yn hynny o beth ond dyna yw'r patrwm gan amlaf.

Yn ôl 1975, er enghraifft, y tro diwethaf y cafodd y Deyrnas Unedig refferendwm ynghylch Ewrop, pleidleisiodd 67% o blaid aros i mewn. Roedd hynny ym mis Mehefin. Ym mis Ionawr, yn ôl Gallop, dim ond 31% oedd yn bwriadu pleidleisio 'Ie', roedd 41% o blaid y 'Na' a 28% yn ansicr. Do, fe wariodd yr ymgyrch 'Ie' ddeg gwaith mwy na'u gwrthwynebwyr ond mae'r newid yn syfrdanol.

Cymerwch esiampl arall. Ym mis Mai 2011 pleidleisiodd 67.9% yn erbyn cyflwyno'r bleidlais amgen. O'r chwe arolwg barn a gynhaliwyd ym mis Mawrth y flwyddyn honno roedd pump yn awgrymu bod 'na fwyafrif o blaid y newid.

Dyw hynny ddim yn golygu nad oes pwynt cynnal refferendwm ynghylch Ewrop. Os oes 'na bwnc sy'n rhannu gwleidyddion a chymdeithas mae cynnal pleidlais yn gallu rhoi taw ar bethau.

Ar ôl cynnal dau refferendwm lle wrthodwyd annibyniaeth mae'r gefnogaeth i Ganada unedig yn Quebec wedi cynyddu's sylweddol - yn enwedig ymhlith yr ifanc. Yn yr un modd yn Awstralia ar ôl i'r syniad o weriniaeth gael ei wrthod yn 1999 mae'r gefnogaeth i'r frenhiniaeth wedi cynyddu. Unwaith yn rhagor, y rheiny dan 25 yw'r mwyaf brwd dros gadw'r cysylltiad â Phrydain.

Mae 'na eironi yn fan hyn. Mae'n ddigon posib, yn fy marn i, y byddai'r refferendwm y mae'r scepticiaid yn deisyfu ei gael yn esgor ar yr hyn na chafwyd yn 1975 - cenhedlaeth oedd yn gysurus ynghylch eu dinasyddiaeth Ewropeaidd.