Mewn Undeb...

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Ar y cyfan rwyf wedi cadw draw o refferendwm yr Alban ar y blog hwn. Mae 'na hen ddigon o bethau diddorol wedi bod yn digwydd yno ond anodd yw synhwyro o bell i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu.

Mae'n wir i ddweud bod pob un o'r cannoedd o arolygon barn a gynhaliwyd hyd yma wedi darogan mai 'na' fydd yr ateb ar Fedi'r 18fed. Mae hi hefyd yn wir bod bron pawb yn yr Alban yr wyf i wedi siarad â nhw yn credu y bydd canlyniad y refferendwm llawer yn agosach nac sy'n cael ei awgrymu gan y polau.

Dros y penwythnos ces i gyfle i flasu tipyn ar y ras yn yr Alban trwy ymweld a Drumchapel - stad cyngor enfawr ar gyrion Glasgow - yr union fath o le, medd seffolegwyr, fydd yn penderfynu canlyniad y refferendwm.

Ar ei hanterth yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf roedd dros ddeugain mil o bobol yn byw ar y stad - tua'r un nifer ac sy'n byw yn nhref Wrecsam heddiw.

Erbyn hyn mae'r boblogaeth wedi gostwng i ryw 15,000. Mae'r blociau o fflatiau wedi hen ddymchwel a chartrefi mwy traddodiadol wedi cymryd eu lle ond erys problemau cymdeithasol ac economaidd difrifol.

Bues i'n siarad â nifer o'r rheiny sy'n byw ar y stad ond dwy sgwrs sy'n sefyll yn y cof. Dyn yn ei dridegau sy'n rhedeg clwb ieuenctid yn yr ardal oedd y cyntaf. Roedd wedi penderfynnu mwy na heb y byddai'n pleidleisio o blaid annibyniaeth ym mis Medi. Roedd e'n ddyn oedd yn amlwg yn dilyn y newyddion a gwleidyddiaeth a rhyfeddais braidd o ddysgu nad oedd erioed wedi bwrw pleidlais o'r blaen.

Roedd ei esboniad yn ddadlennol. "Dyw San Steffan byth yn mynd i newid pethau - a dyw Caeredin ddim yn gallu gwneud" meddai. Doedd e ddim yn sicr iawn beth fyddai oblygiadau annibyniaeth ond o leiaf, yn ei farn ef, fe fyddai'n cynnig y posibilrwydd o wlad fyddai'n fwy cyfartal.

Roedd yr ail sgwrs ddadlennol yn un â chrwt un ar bymtheg oed oedd yn bwriadu pleidleisio o blaid yr undeb - neu yn hytrach yn erbyn annibyniaeth. Gofynnais pam a dyma'r ateb ges i. "I'm just so scared" meddai.

A dyna i chi ornest wleidyddol glasurol - gobaith yn erbyn ofn - a'r ddau mor annelwig â'i gilydd.

P'un sy'n debyg o ennill?

Dwn i ddim yw'r ateb syml a gonest.