Alun Davies Mwy Nid Yw

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dydw i ddim yn credu fy mod i erioed wedi gweld Carwyn Jones mor grac ac oedd e wrth i fi holi fe heddiw. Nid crac yn yr ystyr cynddeiriog - yn hytrach roedd yn arddangos y dicter oeraidd hwnnw sy'n awgrymu dirmyg llwyr.

Pedair awr ar hugain yn ôl roedd testun ei lid yn weinidog yn ei gabinet. O pa fodd y cwymp y cedyrn!

Roedd Carwyn wedi rhybuddio Alun Davies ei fod yn "sefyll wrth ymyl y dibyn" meddai. Os felly, fe neidiodd Alun dros yr ochor. Doedd "dim dewis" ond cael gwared ohono fe, medd Carwyn, ac mae'n "anodd gweld unrhyw ffordd yn ôl" i'r cyn-weinidog.

Mae naws a natur ymadawiad Alun yn gwbl wahanol i'r hyn ddigwyddodd yn achos Leighton Andrews. Fe gafodd hwnnw'r cyfle i ymddiswyddo cyn i Carwyn ei saco - ac mewn llythyr cwrtais a charedig talodd y Prif Weinidog deyrnged i waith ei weinidog addysg gan fynegi'r gobaith y byddai yn gallu gwasanaethu Llywodraeth Cymru rhywbryd yn y dyfodol.

Doedd dim cysur felly i Alun. Roedd aelod Blaenau Gwent mas ar ei glust - fel maen nhw'n dweud. Lle mae hynny'n ei adael? Wel mewn lle pur unig. Does dim llawer o ffrindiau ganddo yn y grŵp Llafur ac mae gallu aelodau Llafur Blaenau Gwent i gecru a chweryla yn ddiharebol. Dywedodd Alun ddoe y byddai'n canolbwyntio ar fuddiannau ei etholaeth o hyn ymlaen. Mae angen iddo wneud.

O safbwynt unrhyw niwed mwy eang i Lafur, fe fydd digwyddiadau'r dyddiau diwethaf yn cymryd rhagor o'r sglein oddi ar y Llywodraeth.

Am gyfnod maith roedd Carwyn fel pe bai e'n gwisgo cot o 'teflon' wleidyddol. Pa bynnag trafferthion a sgandalau yr oedd y Llywodraeth yn dioddef doedd fawr ddim yn sticio gyda'r arolygon yn awgrymu bod Llafur yn bell ar y blaen i bawb arall wrth i etholiadau 2015 a 2016 agosáu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pethau wedi dechrau newid. Mae'r gefnogaeth i Lafur yng Nghymru wedi bod yn gostwng. Mae pethau'n bell o fod yn drychinebus ond dydyn nhw ddim yn gysurus chwaith. Mae ymosodiadau ar record Llywodraeth Cymru, yn enwedig efallai'r rheiny gan Ann Clwyd, wedi gadael ambell i farc.

Roedd 'na ambell i smotyn o rwd ar y sosban a nawr cyn i Alun roi cythraul o dolc ynddi!

Does dim rhyfedd bod Carwyn yn grac.