Tacsi i'r Tywyllwch

  • Cyhoeddwyd
  • comments

O gofio bod Edwina Hart yn un o ddarllenwyr selog y "Morning Star" efallai y dylwn i fod yn garcus cyn defnyddio'r gair 'Stalinaidd' i ddisgrifio disgyblaeth fewnol y grŵp Llafur yn y Cynulliad. Serch hynny, nhw yw'r grŵp mwyaf disgybledig yn y Cynulliad o bell ffordd.

Union hanner aelodau'r Cynulliad sydd gan y blaid. Fe fyddai rhwydd hynt felly i unrhyw rebel neu benboethyn achosi pob math o drafferth. Anaml iawn mae hynny'n digwydd. Mae'r aelodau meinciau cefn wedi hen arfer a brathu eu tafodau yn y Siambr gan fynegi unrhyw anfodlonrwydd y tu ôl i ddrysau caeedig cyfarfodydd grŵp.

Roedd ddoe'n wahanol. Rwy'n crafu fy mhen yn ceisio cofio'r tro olaf i aelodau meinciau cefn Llafur fod mor agored yn eu dirmyg tuag at weinidog ac oedden nhw wrth i Edwina Hart gyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd.

Beirniadwyd y penderfyniad gan bedwar aelod o'r meinciau cefn Llafur. Os oedd 'na unrhyw un o blaid fe ddewison nhw gadw'n dawel. Dyw Edwina Hart ddim yn flodeuyn croendenau, wrth reswm, ond go brin ei bod hi'n ymfalchïo yn y ffaith mai dim ond dau aelod Ceidwadol oedd yn fodlon canmol ei phenderfyniad.

Dyw'r rhesymau am yr anniddigrwydd ddim yn anodd eu canfod. Mae aelodau'r Pwyllgor Amgylchedd yn gynddeiriog bod y Gweinidog wedi cyhoeddi ei phenderfyniad wythnos cyn cyhoeddi canlyniadau ymchwiliad y pwyllgor i'r cynllun.

Ond nid yr amseriad yn unig sydd wrth wraidd y gwrthwynebiad. Y gwir plaen yw bod nifer o aelodau Llafur yn reddfol wrthwynebus i gynlluniau ffyrdd tra-uchel ac yn ddrwgdybus ynghylch gallu'r adran ffyrdd i ddelifro cynlluniau uchelgeisiol.

Wedi'r cyfan £34 miliwn oedd cost ffordd osgoi'r Pentre'r Eglwys i fod. Yn y diwedd fe gostiodd £90 miliwn. Honnwyd y byddai adeiladu ffordd osgoi Porth yn y Rhondda yn costio £33 miliwn. Roedd y bil yn y diwedd yn agosach at £100 miliwn. Pwy sydd i ddweud felly na fydd y biliwn y bwriedir ei wario ar yr M4 newydd yn troi'n ddau neu hyd yn oed yn dri?

Y cwestiwn mawr wrth gwrs yw a fydd y cynllun yn cael ei wireddu? Maddeuwch i mi am fod yn amheus.

Yn ôl yn 1996 es i'r Swyddfa Gymreig i gael cipolwg ar gynlluniau ar gyfer ffordd ddigon tebyg i'r un y mae Edwina Hart yn ei chefnogi. Cafodd honno ei ganslo ar ôl i Lafur ennill grym yn 1997. Atgyfodwyd y cynllun gan Lywodraeth Rhodri Morgan cyn ei gladdu eto gan Ieuan Wyn Jones.

Y gwir plaen amdani yw bod angen rhyw faint o gonsensws ac ewyllys wleidyddol hirdymor i wireddu cynllun mor uchelgeisiol. Does dim arwydd o gwbl bod y naill na'r llall yn bodoli. Fel mae pethau'n sefyll mae'r cynllun yn ymddangos yn fwy o fympwy nac o fotorwê.