Nid Gwir yw Popeth Melyn

Efallai eich bod wedi sylwi nad yw'r blog hwn wedi ei ddiweddaru'n ddiweddar. Y rheswm syml am hynny yw fy mod wedi bod ar wyliau a do, fe wnes i fwynhau'r Eisteddfod. Da iawn chi, Sir Gâr!

Ac eithrio crwydro'r maes, beth mae dyn fel fi'n gwneud gyda'i wyliau? Wel, darllen llyfrau am wleidyddiaeth, wrth reswm. Beth arall sydd i wneud ac oriau hesb?

Un o'r llyfrau hynny oedd "The Welsh Liberals", yr ymdrech gyntaf i groniclo hanes Rhyddfrydwyr Cymru mewn un gyfrol. Mae'r nod yn un cymeradwy er y byddai wedi bod yn well efallai i'r llyfr ddiweddu gyda ffurfio'r Democratiaid Rhyddfrydol yn lle gorffen yn ddisymwth yn gyda gwahardd John Dixon o'r Cynulliad yn 2011.

Russell Deacon, hanesydd proffesiynol sydd hefyd yn aelod gweithgar o'r blaid yw'r awdur ac mae'n amlwg mai llyfr academaidd yw hwn i fod - gydag olnodau manwl a mynegai llawn.

Yn anffodus mae'r gyfrol yn frith o gamgymeriadau ffeithiol y dylid wedi eu canfod gan olygydd. Tair ar ddeg o siroedd oedd yng Nghymru cyn 1975, er enghraifft, nid pymtheg a Dafydd Wigley nid Dafydd Elis Thomas wnaeth sefyll i Blaid Cymru ym Meirionydd yn 1970.

Mae methiant y cyhoeddwyr i gywiro'r proflenni yn tueddu tanseilio hygrededd llyfr sydd yn cynnwys sawl hanesyn difyr.

Diddorol oedd dysgu, er enghraifft, bod y blaid wedi codi pafiliwn gyda lle ynddo i ddeng mil o bobol ar safle presennol canolfan Chapter yn Nhreganna ar ôl i Ardalydd Bute lwyddo i rwystro'r blaid rhag cynnal cynhadledd yng nghanol Caerdydd.

Ond stori fach arall yn y gyfrol oedd y fwyaf dadlennol i fi - stori sy'n esbonio'r ffenomen rhyfedd bod aelodau'r tair plaid arall yng Nghymru yn tueddu parchu ei gilydd tra'n llwyr ddirmygu'r blaid felen a'i thactegau.

Etholiad 1997 ym Mrycheiniog a Maesyfed sydd dan sylw. Dyma'r stori yng ngeiriau Russell ei hun.

"As part of the strategy of retaking the 'lost seats' the party was able to undertake a constituency wide opinion poll of Brecon and Radnor. This told the party two vital things. First, in a straight fight in the seat between all the candidates the Labour party would win, but if the electors believed that it was a two horse race between the Liberal Democrats and the Conservatives then the Liberal Democrats would win the seat. The party's message now became 'Labour cannot win here but the Tories can'. The message on every leaflet proclaimed 'only Richard Livsey can defeat the Tories'."

Dyna chi'r peth yn blaen ar bapur - a hynny gan un o bobol fawr y blaid, - parodrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol i gamarwain etholwyr yn gwbl fwriadol ynghylch amodau gwleidyddol lleol. Mae hyd yn oed enw gan y blaid ar gyfer y dacteg. Y 'squeeze' yw'r term hwnnw ac mae'n golygu chwilio am ystadegau, pa mor bynnag gyfeiliornus, i brofi nad all hwn neu'r llall 'ennill yn fan hyn'.

Os holwch chi Ddemocrat Rhyddfrydol ynghylch y peth fe gewch chi un o ddau ateb. Naill ai "mae'r pleidiau eraill yn gwneud yr un peth" neu "dyma'r unig ffordd i ennill heb system etholiadol deg" yw'r ateb bob tro.

Mae'n wir bod y pleidiau eraill yn sôn am "rasys dau geffyl" o bryd i gilydd - ond gan amlaf mae 'na sail i'r honiad. Yn sicr dydw i ddim yn gwybod am unrhyw achlysur lle mae plaid arall wedi gwneud honiad o'r fath ar ôl comisiynu arolwg barn sy'n profi'r gwrthwyneb.

O safbwynt y gyfundrefn etholiadol - yr un system sydd 'na i bawb. Os fedriff y pleidiau eraill ennill heb gam-arwain yr etholwyr pam na fedriff y Democratiaid Rhyddfrydol?

Y cwestiwn mawr yw a yw pleidlais a enillwyd trwy dwyll yn bleidlais werth ei chael? Mae'r sawl sy'n credu ei bod hi ar dir peryglus iawn.