Draw dros y don mae bro dirion
- Cyhoeddwyd
- comments
Ymhen mis fe fyddwn yn gwybod ym mha wladwriaeth y byddwn yn byw ynddi yn y dyfodol. A fydd Cymru yn parhau i fod yn rhan o Brydain fawr y Deyrnas Gyfunol neu'n rhan o wladwriaeth newydd Prydain fach yr rUK?
Yn nwylo pleidleiswyr yr Alban y mae'n ffawd ac mae'n naturiol felly bod y ddadl wleidyddol wedi canolbwyntio ar sut le fyddai'r Alban ar ôl annibyniaeth. Does fawr o son wedi bod y wladwriaeth arall a fyddai'n bodoli yn sgil pleidlais 'ie' - gwaddol y deyrnas os mynnwch chi.
Does dim dwywaith y byddai Cymru a Lloegr yn gallu gweithredu fel gwladwriaeth gynaliadwy. Fe weithiodd hi o'r blaen, wedi'r cyfan, p'un ai oedd hynny er budd i Gymru ai peidio. Yn wir mae hanes Cymru a Lloegr fel gwladwriaeth unedig tipyn yn hŷn na hanes y Deyrnas Gyfunol. Fe fyddai Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar y llaw arall yn gyfuniad cwbwl newydd ac yn un rhyfedd ar y naw.
Hyd y gwn i does neb yn y byd mawr yma'n gwybod mwy am ffurfiant a thranc gwladwriaethau na'r hanesydd o Rydychen, Norman Davies.
Fe wnaeth ei lyfr "The Isles" drawsnewid y ffordd y mae hanes gwledydd yr ynysoedd hyn yn cael eu gweld yng ngolwg llawer. Yn ddiweddarach roedd ei gyfrol "Vanished Kingdoms" yn ein hatgoffa nad yw unrhyw wladwriaeth yn para am byth. Yn ddigon profoclyd mae'r gyfrol yn dechrau trwy adrodd hanes gwladwriaethau Cymreig yr hen ogledd ac yn bennu gyda thranc tebygol y Deyrnas Gyfunol.
Pwy well i farnu faint o ddyfodol y byddai yna i'r rUK?
Bues i'n trafod rhagolygon Prydain fach gyda Norman rhai dyddiau yn ôl ac roedd ei ddarogan yn ddiddorol a dweud y lleiaf. Cododd un o'r cwestiynau hynny sy'n gwbl amlwg ar ôl i rywun ei ofyn. Dyma fe. "A pha wladwriaeth y byddai unoliaethwyr Ulster yn uniaethu yn sgil annibyniaeth i'r Alban - ai etifedd John Bull a Jac yr Undeb neu'r un o ble ddaeth y rhan fwyaf o'u cynteidiau?"
Doedd y peth ddim wedi fy nharo o'r blaen ond mae Norman yn llygaid ei le trwy ddweud mai gyda gorllewin yr Alban y mae cysylltiadau diwylliannol mwyaf dygn yr unoliaethwyr. Serch hynny, ryw'n amau bod tafod Norman yn ei foch wrth ddarogan y gallasai Gogledd Iwerddon fod yn rhan o'r wladwriaeth Albanaidd rhyw ddydd.
Ar ôl dweud hynny mae ei gellwair yn fodd i'n hatgoffa nad ar chwarae bach y mae datgymalu gwladwriaethau a bod y rheiny sy'n meddwl na fyddai ymadawiad yr Alban yn golygu fawr o newid i weddill y deyrnas o bosib yn twyllo eu hun.