A Nawr Dyma'r News

Ydy'r ffaith bod rhywbeth yn digwydd yng Nghymru yn ei gwneud hi'n stori newyddion Gymreig? Dyna i chi gwestiwn sydd ar feddyliau newyddiadurwyr yn fan hyn ar hyn o bryd a dyw'r ateb ddim mor syml â hynny.

Weithiau wrth gwrs mae'r ateb yn amlwg. Mae etholiad neu lofruddiaeth yng Nghwmsgwt wrth reswm yn straeon Cymreig ond beth am gynhadledd Brydeinig sy'n digwydd cael ei chynnal yng Nghymru? Ydy'r ffaith bod rhyw undeb athrawon neu'i gilydd yn digwydd cwrdd yn Llandudno yn golygu bod y cyfarfod yn haeddu sylw gan y cyfryngau Cymreig? Nac ydy yw'r ateb gan amlaf.

Y rheswm am godi'r cwestiwn yn awr yw digwyddiad na all y cyfryngau Cymreig ei anwybyddu - uwchgynhadledd NATO. Dyw'r peth ddim yn gymaint o broblem i gyfryngau sy'n darparu gwasanaethau newyddion cymysg - pobol fel Radio Cymru, Newyddion Naw, Golwg 360 neu'r Western Mail. Fe fyddai'r cyfryngau hynny yn rhoi rhyw faint o sylw i'r uwchgynhadledd lle bynnag yr oedd hi'n cael ei chynnal. Hawdd felly yw cymhwyso agweddau Cymreig a rhyngwladol y digwyddiad.

Mae gwasanaethau sydd gan amlaf yn canolbwyntio'n llwyr ar newyddion Cymreig, pobl fel Cymru Fyw, Wales Today a Wales Tonight mewn sefyllfa anoddach.

Mae modd wrth gwrs anwybyddu swmp y gynhadledd a chanolbwyntio ar yr onglau Cymreig - yr anghyfleustra, delwedd Cymru, y gloddesta ac yn y blaen - ond gallasai hynny ymddangos braidd yn rhyfedd. Ar y llaw arall fe fyddai dangos diddordeb sydyn yn yr Iwcrain neu Syria hefyd braidd yn od.

Mae sefyllfaoedd tebyg yn codi o bryd i gilydd ac yn esgor ar y cwestiwn a ddylid cynnig newyddion cymysg fel rheol ar y cyfryngau Cymreig. Ers pymtheg mlynedd a rhagor fe fu na ddadlau cyson yn yr Alban o blaid ac yn erbyn yr hyn a elwir yn "Scottish Six" sef awr o newyddion cymysg ar BBC1 rhwng chwech a saith y nos. Beth bynnag sy'n digwydd yn y refferendwm mae'r galwadau am wasanaeth o'r fath yn debyg o barhau a chynyddu.

Nawr fel gwas bach i'r gorfforaeth hon nid fy lle i yw datgan barn y naill ffordd neu'r llall ond medraf fynegi ronyn o gydymdeimlad a chydweithwyr fydd yn crafu eu pennau dros y pythefnos nesaf!