Un wennol...
- Cyhoeddwyd
- comments
Marathon nid sbrint. Dyna oedd disgrifiad cefnogwyr annibyniaeth i'r Alban o'r ymgyrch o'u blaenau pan bennwyd dyddiad y refferendwm yn ôl ym mis Mawrth 2013. Wedi'r cyfan - araf deg mae dal iâr.
Ond wrth i'r dyddiad tyngedfennol agosau mae'n ymddangos i fi nad marathon na sbrint yw'r disgrifiad gorau o'r ornest.
Efallai eich bod yn cofio'r ras rhyfedd honno yn felodrom y Gemau Olympaidd lle'r oedd y seiclwyr yn dilyn boi ar foped yn slo fach cyn i gloch ganu er mwyn arwyddo eu bod hi'n bryd mwynd ffwl pelt am y lein. Y Keirin neu rywbeth tebyg, oedd ei henw hi.
A Keirin, am wn i, yw'r disgrifiad addas o'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Ar ôl misoedd lawer lle nad oedd 'na fawr o newid yn yr arolygon barn dyma i chi YouGov, un o'r cwmnïau mwyaf ffafriol i'r ochor 'Na' yn awgrymu bod pethau'n closio gyda dim ond chwe phwynt yn gwahanu'r ddwy ochor. Mae gwrthwynebwyr annibyniaeth o hyd ar y blaen ond...
I barhau a'r cymariaethau adarol - un wennol ni wna wanwyn. Serch hynny yr hyn sy'n ddiddorol yw na chefais fy synnu gan ganfyddiadau YouGov. O'r dechrau'n deg mae bron pawb yr wyf wedi siarad â nhw yn yr Alban, yn ymgyrchwyr, newyddiadurwyr ac academyddion, wedi mynnu y byddai pethau'n agos yn y diwedd. Hynny er cysondeb arolygon barn oedd bron yn ddigyfnewid.
Pam felly?
Gan amlaf pan gynhelir refferendwm y disgwyl yw y bydd yr ochor nacaol yn ennill tir wrth i ddyddiad y pleidleisio agosáu. Ym Mhrydain dyna ddigwyddodd yn refferendwm Ewrop yn 1975, polau datganoli 1979 a refferendwm Cymru yn 1997. Mae tystiolaeth ryngwladol hefyd yn awgrymu bod pryder yn drech na gobaith yn amlach na pheidio.
Mae 'na ddigon o amser ar ôl i bethau newid wrth gwrs ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos nad yw refferendwm yr Alban yn dilyn y patrwm arferol. Mae greddfau gwleidyddol wedi eu profi'n gywir.
Fe fydd 'na ddigon o amser i ni bendroni ynghylch y rhesymau am hynny ar ôl Medi'r 18fed - ond i bennaethiaid yr ymgyrch 'Na' mae canfod atebion yn fater o bwys ac yn fater o frys.
Mae'r gloch wedi ei chanu a'r lein yn agosáu. Ni ddaw ddoe byth yn ôl ac mae yfory yn llithro o'u dwylo.