Oedd yn gyfan hyd yn awr
- Cyhoeddwyd
- comments
"Denial isn't just a river in Egypt" oedd un o hoff jôcs Rhodri Morgan. Cymaint felly nes bod ei hailadrodd yn tueddu arwain at fwy o ysgyrnygu dannedd na chwerthin erbyn y diwedd.
Eto i gyd efallai bod gan yr hen Rhodri bwynt. Mae gallu gwleidyddion i anwybyddu'r eliffant ar stepen y drws yn rhyfeddol weithiau.
Cymerwch enghraifft. Pe bai chi'n dewis gwrando ar rai o drigolion swigen San Steffan, yn wleidyddion, sylwebwyr a newyddiadurwyr fel ei gilydd, fe fyddai'n ddigon hawdd credu mai'r bleidlais bwysicaf sydd ar y gorwel yw honno yn Clacton. Oes, mae 'ne rhywbeth yn digwydd lan yn yr Alban ond, twt lol, 'na' fydd honna ar ddiwedd y dydd. Wedi'r cyfan craig safadwy mewn tymhestloedd yw'r wladwriaeth Brydeinig - go brin y gallai hi ddatgymalu.
Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn yr Alban, na Chymru o ran hynny, erioed wedi teimlo felly. Mae 'brodyr bach' yr undeb hon wastod wedi deall y tensiynau sy'n bodoli y tu mewn iddi. Y brawd mawr sydd wedi bod yn gibddall.
Dros y pedair awr ar hugain ddiwethaf mae rhai o drigolion y swigen wedi dechrau deffro i'r peryg. "Wake up, Unionists. You really could lose this" medd y Times. "What will it take to persuade Scots to say no" yw'r cwestiwn yn y Telegraph
O'r diwedd fe sylweddolwyd nad yw 'Ie' yn debygol - ond mae hi yn bosib. Mae hynny'n gadael David Cameron ac Ed Miliband mewn tipyn o dwll.
Yn y fath amgylchiadau fe fyddai rhywun yn disgwyl i'r Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid neidio ar yr awyren gyntaf a hedfan i'r Alban i ddadlau dros eu gwladwriaeth; i addo, i rybuddio, i fwlio, i wneud popeth posib er mwyn diogelu eu teyrnas.
Nid felly mae pethau. Mae'r ddau yn debyg o deithio i'r Alban rhyw ben ond mae'n ymddangos eu bod wedi penderfynu mai cadw eu pennau lawr yw'r dacteg orau.
Meddyliwch am hynny am eiliad. Ymddengys fod arweinwyr gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn credu eu bod yn anghymwys i ddadlau dros barhad eu gwladwriaeth.
Mae hynny'n dipyn o beth.