Dan Gadarn Goncrit

"Beth sy'n debyg o ddigwydd yn yr Alban te?" Pe bawn i wedi cael swllt am bob tro yr wyf wedi clywed y cwestiwn yna dros y dyddiau diwethaf fe fyddai digon gen i ymddeol i dyddyn rhywle yn Ynysoedd Heledd. Mae Ìle yn braf yn ôl pob sôn er efallai y byddai ynys Canna'n fwy addas i grwt o Gaerdydd!

Sori, beth oedd y cwestiwn eto?

Drychwch, does gen i ddim clem beth sy'n debyg i ddigwydd ar y deunawfed - cewch chi ddim proffwydoliaeth yn fan hyn. Bydd yn rhai i chi gadw cwmni i Dewi Llwyd, Bethan Rhys Roberts a minnau ar noson fawr y cyfri.

Mewn un ystyr efallai nad yw canlyniad yr Alban mor bwysig â hynny o safbwynt Cymru.

Does 'na ddim cymaint â hynny o wahaniaeth rhwng y fath o annibyniaeth llaeth enwyn sy'n cael ei chynnig gan Alex Salmond a'r fath o anrhegion cyfansoddiadol sy'n cael ei haddo gan San Steffan wrth i'w gwleidyddion synhwyro bod yr Undeb yn llithro trwy eu dwylo.

Y newid agwedd yn San Steffan yw'r hyn sy'n bwysig o safbwynt Cymru. Does dim modd gor-ddweud ynghylch maint yr ysgytwad y mae dosbarth gwleidyddol San Steffan wedi dioddef yn ystod y dyddiau diwethaf. Cafwyd 'daeargrynfeydd dan gadarn goncrit Philistia'. Gwasgarwyd hwy oddi yno dros wyneb yr holl ddaear - neu cyn belled a'r Alban o leiaf!

Fe fydd canlyniadau'r ysgytwad yna'n parhau am flynyddoedd i ddod beth bynnag yw'r canlyniad wythnos nesaf.

Mae'n ddigon posib ein bod ar drothwy cyfnod o newid cyfansoddiadol na welwyd ei fath o'r blaen yn hanes y wladwriaeth - cyfnod lle mae pob dim yn bosib a phob peth ar y bwrdd.

Y cwestiwn sydd angen ei ofyn nawr yw ydy arweinwyr gwleidyddol Cymru yn ddigon medrus i fanteisio ar y cyfleoedd sydd i ddod? Fe gawn weld.