Lessons History
- Cyhoeddwyd
- comments
"Ydyn ni'n cael dweud ynysoedd Prydain y dyddiau hyn?" Gofynnwyd y cwestiwn i mi yn yr ystafell newyddion y dydd o'r blaen a doedd e ddim yn gwestiwn dwl. Yn hytrach mae'n enghraifft o'r gofal sy'n rhaid cymryd wrth geisio newyddiadura'n ddiduedd ynghylch refferendwm yr Alban.
Fel mae'n digwydd mae ambell i hanesydd yn dewis defnyddio'r enw "Atlantic Isles" yn hytrach na 'British Isles' y dyddiau hyn gan gredu bod hynny yn derm mwy niwtral. Yn bersonol rwy'n credu bod 'Prydain' a 'Phrydeinig' yn iawn yn newyddiadurol ond rwy'n derbyn bod modd dadlau'n wahanol.
Gan amlaf dyw bod yn ddiduedd ddim yn golygu llawer mwy na bod yn gytbwys ond pan ddaw hi'n fater o siâp y wladwriaeth yr ydym yn byw ynddi mae pob un ohonom yn llawn o ryw ragdybiaethau sy'n dylanwadu ar bethau mor sylfaenol â'n gerifa a'n hieithwedd.
Cymerwch esiampl arall. Wrth ymweld â'r Alban ddoe fe ddywedodd David Cameron y byddai'n torri ei galon pe bai'r Alban yn "gadael y Deyrnas Unedig". Nawr mae'r Prif Weinidog wedi cael digon addysg i wybod bod y "Deyrnas Unedig" ond yn bodoli oherwydd Deddf Uno 1707. Fe fyddai ymadawiad yn Alban yn golygu diwedd ar y deyrnas honno - o leiaf yn ei ffurf bresennol.
Siarad o'r galon oedd y Prif Weinidog wrth reswm a gall neb ei feio am ddefnyddio geiriau emosiynol wrth amddiffyn gwladwriaeth y mae'n teimlo'n wlatgar yn ei chylch. Serch hynny mae'r cysyniad "gadael y DU" yn gamarweiniol braidd wrth drafod yr hyn sydd dan ystyriaeth.
A dyna'r pwynt, efallai.
Mae'n anodd iawn trafod cwestiwn yr Alban fel cwestiwn gwleidyddol yn unig. Mae ymwneud a hanes, daearyddiaeth a hanner dwsin o bynciau eraill ar y cwricwlwm ysgol o ran hynny. Mae'n treiddio ac yn herio gosodiadau sy'n cael eu hystyried yn wirioneddau - boed y rheiny'n wirioneddau Eton neu Ysgol Syr Hugh Owen.