Araith Emrys
- Cyhoeddwyd
- comments
O ystyried maint y lle mae Tonypandy wedi cynhyrchu ei siâr o enwogion. Mae'r paffiwr Tommy Farr a'r actorion Donald a Glyn Houston yn haeddu eu lle yn oriel yr anfarwolion - ond beth am wleidyddion y dref?
Dau sydd 'na sydd werth eu nodi - ill dau yn aelodau o'r Blaid Lafur ond yn bobol dra gwahanol i'w gilydd. George Thomas, Is-iarll Tonypandy yw'r cyntaf, wrth reswm - dyn wnaeth ddringo o gefndir digon difreintiedig i uchelfannau San Steffan.
Roedd George yn ymhyfrydu o gael ei ddisgrifio fel "the hammer of the nats" ac mae'n destun casineb personol bron i ambell genedlaetholwr hyd heddiw. Dyw hi ddim yn anodd ar y llaw arall i ddod o hyd i bobol all dystio i'w garedigrwydd personol. Er bod llawer o'u safbwyntiau yn enwedig ynghylch Cymru a'r Gymraeg yn anffasiynol heddiw doedden nhw ddim yn anghyffredin ar y pryd.
Tra roedd George yn lordio hi dros yr Arwisgiad yng Nghaernarfon roedd un arall o feibion Tonypandy wrthi'n lambastio'r digwyddiad mewn llyfr o'r enw "The Prince, the Crown and the cash" - un o'r llithiau gwrth-frenhinol mwyaf ffyrnig i mi ddarllen erioed.
Emrys Hughes, Aelod Seneddol De Ayrshire, oedd yr awdur ac fe gyhoeddwyd y llyfr ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth. Olynydd Hughes fel Aelod Seneddol oedd Jim Sillars, aelod Llafur ar y pryd sydd bellach yn un o hen bennau cenedlaetholdeb yr Alban.
Roedd Emrys Hughes yntau yn un â thipyn i ddweud dros ddatganoli os nad cenedlaetholdeb. Yn fab y mans roedd yn perthyn i draddodiad o fewn y mudiad Llafur yng Nghymru oedd a'i wreiddiau yng ngwerthoedd Anghydffurfiaeth.
Mae bywgraffiad diweddar D Ben Rees o Jim Griffiths yn cyfleu darlun byw iawn o'r traddodiad hwnnw ond yn wahanol i Griffiths fe ddewisodd Hughes fod yn dipyn o ddraenen yn ystlys ei blaid yn hytrach na dringo oddi mewn iddi.
Collodd y chwip ar fwy nac un achlysur, ymosododd yn fileinig ar Churchill mewn cyfnod pan oedd hwnnw'n destun addoliad gwleidyddol ac enillodd lid ei gyd-aelodau Llafur trwy gyflwyno Gwynfor Evans i Dŷ'r Cyffredin ar ôl ei ethol yn 1966.
Mae'n debyg y byddai sawl arweinydd Llafur wedi bod yn ddigon balch cael gwared ar Hughes - ond roedd gan y Cymro bolisi yswiriant sef y ffaith ei fod yn fab yng nghyfraith i Keir Hardie - sant seciwlar y mudiad Llafur.
Roeddwn i'n meddwl am Emrys Hughes ar ôl darllen datganiad a ddaeth i law gan Owen Smith y bore yma. Dyma ran o beth oedd gan Owen i ddweud.
"Labour's roots run deep in Scotland and from Keir Hardie to today's volunteers we have always worked together to deliver better outcomes and opportunities for working people, wherever they live in Britain."
Y cwestiwn wnaeth fy nharo oedd sut y byddai Emrys Hughes, neu Keir Hardie o ran hynny, yn pleidleisio yn refferendwm yr Alban.
Go brin y byddai Cymro oedd yn cynrychioli etholaeth Albanaidd nac Albanwr oedd yn cynrychioli sedd Gymreig yn frwd o blaid hollti'r dosbarth gwaith. Ar y llaw arall roedd y ddau'n ymreolwyr pybyr a go brin y byddai'r naill na'r llall wedi ymddiried yn addewid David Cameron o newid cyfansoddiadol.
Am wn i, y cwestiwn y byddai Hughes a Hardie yn gofyn yw a all Llafur ddelifro hunan-lywodraeth ystyrlon yn ôl ei haddewid?
Mae'n ddigon mai dyna'r union gwestiwn sydd ar feddyliau rhai o bleidleiswyr yr Alban heddiw.