Ar Hyd y Nos
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyma air o gyngor i chi. Os ydych chi'n taro i mewn i Beti George neu Gwyn Llywelyn peidiwch, da chi, a gofyn am ei hatgofion ynghylch rhaglen ganlyniadau Etholiad 1983.
Honna oedd ymdrech gyntaf BBC Cymru ac S4C i ddarparu gwasanaeth felly ac rwy'n tybio bod Gwyn a Beti o hyd yn cael ambell i hunllef ynghylch y peth. Y cyfan ddywedaf i yw efallai nad oedd hi'n syniad da dibynnu cymaint ar Sinclair ZX Spectrum i ddelifro'r canlyniadau!
Mae'r dechnoleg ychydig yn fwy soffistigedig erbyn hyn - a BBC Cymru wedi hen arfer a chynhyrchu marathonau etholiadol. Serch hynny rhaglen nos Iau a bore Gwener fydd y tro cyntaf i ni gynhyrchu rhaglen ynghylch pleidlais mewn gwlad arall a phleidlais gydag oblygiadau tymor hir mor sylfaenol.
Beth fedrwch chi ddisgwyl felly? Wel, Dewi Llwyd a minnau wrth reswm. Mae'r ddeuawd arbennig yna'n ddigyfnewid. Yn ymuno â ni yng Nghaerdydd fe fydd nifer o wleidyddion Cymreig amlwg ac fe fydd criw o sylwebyddion a seffolegwyr gyda Janet Ebeneser yn ein 'stafell sbin'.
Rwy'n synhwyro beth sydd ar feddyliau rhai ohonoch chi. Mae sŵn ym mrig y morwydd - "ble mae Richard Wyn Jones? Mae angen Richard arnon ni!" Na phoener. Fe fydd Richard yng Nghaeredin yn cadw cwmni i Bethan Rhys Roberts a nifer o Gymry'r Alban tra bydd eraill o'n gohebwyr yn y canolfannau cyfri allweddol.
Oes 'na fwy? Oes tad - fe fydd Elliw Gwawr yn ymuno â ni o San Steffan a Daniel Davies yn y Cynulliad yn gwylio'r canlyniadau gyda chynulleidfa o wleidyddion.
Fe fydd croeso i chi ymuno â'r sgwrs hefyd trwy wefan Cymru Fyw, Trydar, Skype, testun a phob math o bethau eraill - os ydy'r Sinclair bach yn gweithio, wrth gwrs!
Fe fydd y cyfan yn dechrau am 10.30 ar S4C, Radio Cymru a Chymru Fyw. Dwn i ddim amdanoch chi- ond rwy'n edrych ymlaen!