Gwersi Gwyddelig

Roedd hi'n dipyn o farathon nos Iau - os lwyddoch chi i aros gyda Dewi, Bethan a minnau trwy'r nos - llongyfarchiadau. Gobeithio gwnaethoch chi fwynhau!

I'r rheiny oedd ddim ar ddihun yn oriau man y bore wnaethoch chi golli ffaith fach ddiddorol wnaeth ddim cael rhyw lawer o sylw yn ystod saga refferendwm yr Alban.

Cynhaliwyd y bleidlais honno ar union ganmlwyddiant y diwrnod y gwnaeth ddau fesur cyfansoddiadol o bwys dderbyn cydsyniad brenhinol. Ar y deunawfed o Fedi, 1914, fe gyrhaeddodd Mesur yr Eglwys yng Nghymru a Mesur Llywodraethu'r Iwerddon y llyfrau statud.

O fewn oriau pasiwyd deddfwriaeth frys er mwyn gohirio gweithredu'r mesurau tan ddiwedd y rhyfel. Ar y pryd roedd hynny'n ymddangos yn ddigon rhesymol. Wedi'r cyfan fe fyddai'r gyflafan drosodd erbyn y Nadolig.

Mae'n debyg na chafodd ychydig o oedi cyn datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru fawr o effaith ar ein bywydau ni heddiw. Fe brofodd gohirio gwireddu Deddf Llywodraethu'r Iwerddon ar y llaw arall yn farwol i'r Deyrnas Unedig fel oedd hi'n bodoli ar y pryd.

Fe arweiniodd y methiant i wireddu ymreolaeth, 'devomax' os mynnwch chi, i Iwerddon Gyfan at sefydlu gwladwriaeth annibynnol ar o leiaf rhan o diriogaeth yr ynys lai na degawd yn ddiweddarach.

Gwrthryfel y Pasg yn 1916 ac adwaith ffyrnig yr awdurdodau iddo sy'n cael ei feio neu ei glodfori am newid y farn gyhoeddus gan amlaf - ond maen ddigon posib y byddai torri'r addewid wedi bod yn ddigon ar ben ei hun. I ddyfynnu geiriau enwog Yeats - "All changed, changed utterly: A terrible beauty is born."

Mae'r newid yn y farn gyhoeddus yn y cyfnod hwnnw yn rhyfeddol - er bod system bleidleisio 'cyntaf i'r felin' San Steffan yn gwneud iddo ymddangos hyd yn oed yn fwy dramatig nac oedd e.

Yn ail etholiad 1910 roedd pleidiau'r ymreolwyr wedi ennill 93 o'r 105 o seddi Gwyddelig. Dim ond hanner dwsin oedd ar ôl yn sgil etholiad 1918 gyda gweriniaethwyr Sinn Féin yn cipio 75 sedd.

Ydy hi'n bosib y gallasai'r un fath o beth ddigwydd yn yr Alban - y newid barn hynny yw, nid y gwrthryfel?

Mae arolwg barn a gynhaliwyd ar ôl y refferendwm yn awgrymu nid yn unig y byddai'r SNP yn ennill etholiad senedd yr Alban yn ddigon cysurus pe bai un yn cael ei gynnal nawr ond hefyd y byddai'r cenedlaetholwyr yn bygwth goruchafiaeth y blaid Lafur mewn etholiad cyffredinol Prydeinig.

Mae'r nifereodd syfrdanol sydd wedi ymuno â'r pleidiau ie dros y dyddiau diwethaf hefyd yn arwydd o'r hyn allai ddod.

Does dim byd yn anorfod mewn gwleidyddiaeth wrth gwrs ond fe fydd Llafur yn bryderus y gallasai methiant yr ochr ie yn y refferendwm esgor ar lwyddiant yn yr etholiad cyffredinol i'r SNP - yn enwedig yn Glasgow lle'r oedd 'na fwyafrif 'ie' ym mhob un etholaeth.

Ar ein rhaglen nos Iau fe gafwyd sylw diddorol iawn gan Richard Wyn Jones sef ei fod wedi canfod 'ysbryd diwygiad' gwleidyddol ar strydoedd Glasgow. Efallai'n wir. Fe fydd Llafur yn gobeithio ei fod e'n dan siafins fel diwygiad 04-05. Gallai unrhyw beth arall fod yn beryg bywyd i'r blaid.