Dan y Dŵr

Nid Capel Celyn yw'r unig bentref i ddiflannu o dan y dŵr yng Nghymru - nid hwnnw yw'r mwyaf hyd yn oed. Hen bentref Llanwddyn sydd â'r anrhydedd arbennig yna gyda Ynysyfelin yn ail agos.

Cyn i'r lle ddiflannu roedd gan Ynysyfelin felin wlân ynghyd â chapel, Bethel, ysgol, dau dafarn - y Llew Coch a'r Farmer's Arms, bythynod, tyddynod a ffermydd.

Mae adfeilion Ynysyfelin ar waelod y mwyaf deheuol o'r cronfeydd dwr wrth ochor yr A470 rhwng Merthyr ac Aberhonddu. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol o'r lle nes i Gareth Hughes grybwyll y ffaith ei fod wedi bod yn pregethu yng nghapel Bethel yn ddiweddar.

Nawr, mae Gareth yn ddyn amryddawn, yn newyddiadurwr, yn sylwebydd craff ac yn dipster dibynadwy i'r rheiny sydd am fentro swllt ar y ceffylau. Serch hynny, hyd y gwn i, dyw e ddim yn nofiwr tanddwr nac yn gallu cyhoeddi'r newyddion da tra'n gwisgo Aqualung!

Ceir yr ateb i'r dirgelwch mewn adeilad bach wrth ymyl yr A470 wedi ei adeladu o'r un graig a'r argae a'r gorsafoedd pwmpio gyferbyn. Ond nid gwaith dŵr yw hwn ond y Bethel newydd a godwyd yn 1914 i goffhau'r pentref coll.

Mae'r lle o hyd ar agor ac, yn fwy rhyfeddol efallai, Cymraeg yw iaith yr addoliad hyd heddiw. Mae'n addas efallai mai un o gapeli'r Bedyddwyr yw Bethel. Does dim rhaid chwilio ymhell am y drochfa!

Rwy'n sicr bod 'na sawl Bethel arall o gwmpas y lle - addoldai ac iddynt hanes diddorol neu werth pensaernïol ond yn aml iawn dyw'r ymwybyddiaeth ohonyn nhw ddim yn ymledu ymhellach na'r gymdogaeth leol.

Gallai hynny ddechrau newid yr wythnos hon gyda lansiad gwefan newydd gan yr Ymddiriedolaeth Addoldai a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Dydw i ddim wedi gweld y gwefan eto ond mae'n ffrwyth blynyddoedd o ymchwil i addoldai'r anghydffurfwyr yng Nghymru - y rheiny sydd a'r rheiny a fu.

Mae lansio'r gwefan yn gam pwysig yn y broses o ddiogelu'r hyn sy'n weddill o'n 'pensaernïaeth gynhenid genedlaethol' a dyrchafu'n capeli i'r un pwysigrwydd a'n heglwysi a'n plastai.

Serch hynny mae 'na eironi yn y ffaith bod hynny'n digwydd yn yr union wythnos pan gyhoeddir rhagor o doriadau i gyllid llywodraeth leol a chyllideb yr adran ddiwylliant - yr union gyrff a allasai weithredu yn y maes.

Efallai'n wir y bydd rhai o'n cynghorau o dan y dŵr yn y flwyddyn ariannol nesaf!