Cael plant i 'ddarllen yn dda' erbyn 2025

  • Cyhoeddwyd
Logo Darllena Datblyga

Ddydd Mercher, mae cenhadaeth genedlaethol yn cael ei lansio i gael pob plentyn 11 oed yng Nghymru i "ddarllen yn dda erbyn 2025".

Bwriad Darllena.Datblyga yw hybu'r genedl i chwarae ei rhan wrth wneud i hyn ddigwydd.

Mae athrawon, elusennau ac awduron yn rhan o'r prosiect.

Daw'r ymgyrch yn dilyn pryder am sgiliau darllen plant, ac mae'n cael ei lansio yn Llyfrgell Ganolog Abertawe.

Tystiolaeth

Yn ôl adroddiad Estyn yn 2010-11, mae 40% o blant 11 oed yng Nghymru "yn meddu ar sgiliau darllen sydd o dan eu hoed cronolegol".

Yn ogystal, mae adroddiad diweddar gan lywodraeth Cymru yn dangos fod "plant sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddim yn llwyddo cystal â'u cyfoedion sydd yn darllen gyda'u rheini mewn ardaloedd mwy cefnog."

Nawr, mae Darllena.Datblyga wedi cyhoeddi adroddiad yn edrych ar arferion darllen plant Cymru.

PRIF GANFYDDIADAU 'DARLLEN AR GYFER DYFODOL TEG'

  • Byddai CDG (Cynnyrch Domestig Gros) yn 2025 wedi bod £32 biliwn yn uwch petai camau wedi eu cymryd i sicrhau bod pob plentyn yn darllen yn dda erbyn iddynt gyrraedd 11 oed.

  • Dywedodd 73% o'r merched rhwng 8 i 11 mlwydd oed eu bod wedi mwynhau darllen o gymharu â 59% o fechgyn.

  • Nid yw plant yn darllen digon y tu allan i'r ysgol, neu gyda'u tadau. Ymysg plant pum mlwydd oed y mae eu tadau yn darllen iddynt bob dydd, mae rhain hanner blwyddyn o flaen eu cyfoedion gyda'u darllen o gymharu â phlant sydd yn darllen unwaith yr wythnos.

Nod y prosiect yw cefnogi rhieni i ddarllen gyda phlant ifanc am ddeng munud y dydd, annog y cyhoedd i wirfoddoli i helpu plant dan anfantais i wella eu darllen.

Mae'r ymgyrch eisiau "adeiladu clymblaid bwerus o'r cyhoedd mwyaf dylanwadol, preifat a mudiadau elusennol i addo i gefnogi'r genhadaeth ac annog pob plaid wleidyddol i gefnogi targed 2025."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd darllen gyda'i mam yn 'amser arbennig', meddai Caryl Lewis

Mae nifer o awduron plant Cymru yn cefnogi'r genhadaeth, gan gynnwys Caryl Lewis, Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros a Jon Gower.

Mae nhw wedi darparu storïau 10-munud y gall rhieni fwynhau darllen gyda'u plant, sydd ar gael ar y we.

Yn ôl Caryl Lewis, mae'r prosiect yn agos at ei chalon:

"Bob nos fyddai mam yn adrodd stori inni yn y gwely. Roedd e'n amser arbennig. Amser ni gyda mam heb neb arall yn mynd a'i sylw. Roedd y straeon yn meithrin dychymyg. Yn helpu gyda'n sgiliau iaith a hefyd yn helpu inni gysgu."

Dywedodd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru, sy'n rhan o'r glymblaid:

"Rhaid i ni weithredu nawr i newid y stori ar gyfer ein plant yng Nghymru.

"Mae Darllena. Datblyga yn ymwneud â phawb yn dod at ei gilydd i ysgrifennu'r bennod nesaf ac i sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle teg a chyfartal i ddysgu darllen yn dda, beth bynnag eu cefndir. "