Cadw Gair
- Cyhoeddwyd
- comments
"Please don't call it that. What ever you do don't call it that!"
Roedd wyneb y Lib Dem bach yr oeddwn yn siarad â fe yn wyn a phanig gwyllt yn ei lygaid. Dydw i erioed wedi gweld unrhyw un yn edrych mor bryderus.
Cyfeirio at yr addewid a roddwyd i bobol yr Alban gan bleidiau mawrion San Steffan fel 'the pledge' oedd fy mhechod. 'The vow' yw'r enw swyddogol. I'r Democratiaid Rhyddfrydol mae'r gair 'pledge' yn cyfeirio at un addewid ac un addewid yn unig sef yr un a roddwyd gan y blaid i fyfyrwyr Prydain cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Mewn geiriau eraill mae 'pledge' yn addewid sy'n saff o gael ei dorri.
Ond pa mor ddifrifol yw'r 'vow' a roddwyd i bobl yr Alban? Mae'n ymddangos i mi bod un rhan ohono sef y frawddeg gyntaf un yn hynod o anodd ei chyflawni. Dyma hi.
"We are agreed that: The Scottish Parliament is permanent and extensive new powers for the Parliament will be delivered by the process and to the timetable agreed and announced by our three parties, starting on 19th September."
Y gair 'permanent' yna yw'r broblem.
Yr hyn mae'r arweinwyr yn ceisio ei addo yw na fydd modd i San Steffan ddiddymu senedd yr Alban yn y dyfodol.
Mae Llywydd y Cynulliad yn ceisio sicrhau addewid tebyg i Gymru. Mewn datganiad ddoe dywedodd Rosemary Butler fod yn rhaid sicrhau "sofraniaeth i'r Cynulliad fel na all San Steffan benderfynu ar ddyfodol y Cynulliad, neu reoli penderfyniadau ar faterion fel enw'r Cynulliad a'r trefniadau etholiadol".
Hyd y gwelaf i, dim ond un ffordd sydd yna o gyflawni hynny sef trwy lunio cyfansoddiad ysgrifenedig i'r Deyrnas Unedig ac os mae dyna oedd y bwriad pam na ddywedwyd hynny yn y 'vow'?
Yn sicr does dim modd sicrhau bod y deddfwrfeydd datganoledig yn barhaol o fewn yr amserlen a gyhoeddwyd yn yr 'addewid'.
Nawr fe fyddai nifer o hen bennau yn dweud nad yw'r sefyllfa gyfreithiol o fawr o bwys gan nad oes modd dychmygu sefyllfa lle byddai San Steffan yn diddymu'r deddfwrfeydd. Wedi'r cyfan, meddid, tan y 1980au roedd gan San Steffan yr hawl i ddiddymu seneddau Canada ac Awstralia ond byddai hi byth wedi beiddio gwneud hynny.
Efallai' wir ond 'vow' yw 'vow' - os nad yw hi'n 'pledge' wrth gwrs!