Mil o alwadau

Dydw i ddim yn gwybod pwy sy'n cyfri'r pethau yma ond fe fydd y Cynulliad yn cyrraedd tipyn o garreg filltir yr wythnos hon. Cyfarfod yfory fydd y milfed tro i'n haelodau etholedig eistedd lawr mewn sesiwn lawn. Hyd y gwn i does 'na ddim dathliadau arbennig wedi eu trefnu - ond beth am atgoffa'n gilydd o rhai o'r uchafbwyntiau !

Pwy all anghofio y tro hwnnw y gwnaeth Mick Bates, Aelod Cynulliad Maldwyn, droi i fyny wedi ei wisgo fel Siôn Corn? Mynd i ysbryd yr ŵyl oedd Mick yn hytrach na gwneud pwynt gwleidyddol - ond efallai y dylasai fe wedi dysgu gwers ynghylch dathlu'n anaddas!

Neu dyna i chi'r tro y derbyniodd David Davies ganmoliaeth annisgwyl gan yr Aelod Cynulliad Llafur, Alison Halford. Does dim rhyfedd i David wrido wrth iddo glywed y geiriau hyn.

"In my many waking and sleeping moments, I have considerable thoughts about the attractiveness of David Davies. Could I let you into a secret Mr Presiding Officer? He has one of the nicest bottoms I have seen for some considerable time."

Oedd a wnelo prydferthwch pen ôl David unrhyw beth a phenderfyniad Alison i droi o Lafur at y Ceidwadwyr? Dan dîn fyddai awgrymu hynny.

Uchafbwynt arall oedd y cynnig wnaeth dderbyn y nifer fwyaf o welliannau yn hanes y Cynulliad - hwnnw oedd yn clustnodi pwy oedd yn cael eistedd yn ble yn yr hen siambr ac mae addasiad Brian Hancock o freuddwyd Martin Luther King wrth alw am ail agor y gamlas i Drecelyn hefyd yn aros yn y cof.

Ond heb os i fi, y digwyddiad mwyaf cyffrous yn hanes y Cynulliad oedd y tro hwnnw y treuliwyd awr gyfan yn trafod hawl aelodau Eglwys y Tabernacl, Caerdydd i barcio eu ceir ar feddrodau eu cynteidiau ar yr Ais. Pa ddeddfwrfa arall yn y byd fyddai'n trafod rhywbeth felly? Cynulliad talaith Chubut, efallai?

Mae'n drawiadol efallai bod y digwyddiadau uchod i gyd wedi digwydd yn nyddiau cynnar y Cynulliad. Efallai bod yr aelodau wedi aeddfedu neu gallio. Piti, mewn gwirionedd - o leiaf o safbwynt ni'r newyddiadurwyr!