Rhosyn Gwridog Iechyd
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyw sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog ym Mae Caerdydd ddim yn ddigwyddiad theatrig fel un San Steffan. Serch hynny, mae'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr y Cynulliad yn gwylio'r sesiwn gan geisio dyfalu o flaen llaw pa bynciau sy'n debyg o gael eu codi gan arweinwyr y gwrthbleidiau.
Roedd pawb yn sicr heddiw mai cyflwr y gwasanaeth iechyd fyddai'n denu sylw Andrew R.T Davies. Wedi'r cyfan mae'r Daily Mail wedi treulio deuddydd yn colbio Llywodraeth Cymru ynghylch y pwnc gan adleisio'r union ddadleuon y mae Andrew ei hun yn defnyddio.
Roedd hi'n dipyn o syndod felly pan gododd arweinydd y Ceidwadwyr ar ei draed a holi Carwyn Jones ynghylch datblygu gwledig. Pam anwybyddu'r gôl agored a cholli'r cyfle i gynnig ambell i ddyfyniad bachog i newyddiadurwyr y Mail?
Rhan o'r rheswm, heb os, yw mai cawl eildwym yw potas y Mail. Mae'r ystadegau ac esiamplau a gynigir gan y papur yn rhai sy'n hen gyfarwydd yn siambr y cynulliad.
Serch hynny dyw bod yn ailadroddus ddim yn bechod i wleidydd. Does ond angen meddwl am y geiriau 'long term economic plan' neu 'hard working families' i wybod hynny!
Y prif reswm am gadw draw o'r pwnc, dybiwn i, yw bod ymosodiadau ar wasanaeth iechyd Cymru, yn enwedig ymosodiadau o'r tu allan i Gymru, yn dipyn o gleddyf daufiniog i'r Ceidwadwyr Cymreig.
Mae'r arolygon barn i gyd yn awgrymu bod y gefnogaeth i Lafur Cymru wedi gostwng dros y ddwy flynedd diwethaf a'r cyhoeddusrwydd ynghylch problemau'r gwasanaeth iechyd yw'r esboniad mwyaf amlwg am hynny. Ar y llaw arall dyw'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr ddim wedi cynyddu. Nid at y blaid las y mae pobol sy'n poeni am gyflwr y gwasanaeth iechyd yn tueddu troi.
Y broblem arall i'r Ceidwadwyr yw bod ymosodiadau ar Lywodraeth Cymru o'r ochor draw i Glawdd Offa yn gallu cael eu gweld fel ymosodiadau ar Gymru a dyw'r Torïaid ddim yn dymuno cael eu gweld ar yr ochr anghywir yn y 'ni a nhw' bach arbennig yna! Tawelwch sydd orau.
Dyw hynny ddim yn debyg o boeni'r Daily Mail. Wedi'r cyfan nid darllenwyr Cymreig y papur yw'r gynulleidfa darged ar gyfer y straeon yma. Arf yw Cymru mewn brwydr am galonnau Lloegr ganol.