O Gymru, Fy Nghymru
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae 'na beth amryfusedd ynghylch pryd yn union y cafodd Plaid Cymru ei sefydlu. 1925 yw'r man cychwyn swyddogol ond mae rhai'n dadlau mai yng nghyfarfod yng Nghaernarfon yn Rhagfyr 1924 y ganwyd y blaid.
Pwy bynnag sy'n iawn does dim cymaint â hynny i fynd cyn i'r blaid gyrraedd ei nawdegau. Mae'n bryd felly, yn ôl rhai, i'r blaid aeddfedu a thyfu'n blaid lywodraethol go iawn.
Problem Plaid Cymru am y rhan fwyaf o'i hanes oedd ei bod hi'n llythrennol amhosib iddi sicrhau grym cenedlaethol - gan nad oedd strwythur seneddol a llywodraethol cenedlaethol yn bodoli yng Nghymru.
Fe newidiodd hynny yn 1999 ond hyd heddiw erys rhai o'r hen arferion a'r hen agweddau o'r degawdau hir pan nad oedd unrhyw ddewis gan Blaid Cymru ond ymddwyn fel gwrthblaid fach yn hofran ar gyrion y wladwriaeth Brydeinig.
Doedd hynny ddim yn lle cwbl anghysurus i fod. Gall plaid o'r fath bod yn aneglur ynghylch ei hunion weledigaeth a does dim angen rhaglen lywodraethol resymegol. Fe wnaiff llond bwced o addewidion cymysg y tro o'u gwisgo mewn mantell maniffesto - yr union fath o ddogfen a gyflwynwyd gan Blaid Cymru i etholwyr Cymru yn etholiad 2011.
Mae crybwyll maniffesto 2011 yn ddigon i wneud i ambell aelod o Blaid Cymru wrido hyd heddiw a go brin y bydd y blaid yn gwneud un fath o smonach o bethau tro nesaf. Ar y llaw arall, faint ohonoch chi sy'n gallu rhestri hanner dwsin o bolisïau sy'n unigryw i Blaid Cymru? Na finnau chwaith.
O edrych ar gyflwr Plaid Cymru heddiw mae'n ymddangos i mi ei bod hi wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ganddi dîm cryf o ymgeiswyr a dulliau negesi modern ac effeithiol - ond beth yw'r neges? Sut mae Plaid Cymru'n gobeithio cystadlu a Llafur nawr bod asgell genedlaethol y blaid honno a'u dwylo ar yr awenau?
Efallai cawn ni ateb o Langollen y penwythnos hwn. Deunaw mis sy 'na i fynd tan etholiad y cynulliad a does 'na ddim llawer o gig ar yr esgyrn hyd yma.