Ffosil o Fformiwla
- Cyhoeddwyd
- comments
Roedd gan Wellington ei fŵt, Cardigan ei siwmper a Barnett ei fformiwla. Yn y tri achos mae'r cread wedi goroesi'r creawdwr. Mae'n ddigon posib y byddai'r Dug a'r Ardalydd yn ymfalchïo yn eu hanfarwoldeb. Nid felly yr oedd Joel Barnett yn teimlo am ei fformiwla.
Droeon ar hyd y degawdau mynegodd ryfeddod bod ei fformiwla yn dal i gael ei defnyddio i bennu gwariant y gwledydd datganoledig gan alw'n fynych am newid yn y drefn.
Mae'n hawdd anghofio erbyn hyn mai peth dros dro yr oedd y fformiwla i fod. Fe'i lluniwyd yn 1978 wrth i'r ddeddfwriaeth i sefydlu cynulliadau yng Nghaerdydd a Chaeredin ymlwybro trwy'r Senedd. Y bwriad oedd defnyddio'r fformiwla am ddwy flynedd yn unig gan lunio trefn barhaol ar ôl ethol y ddau gynulliad.
Methodd y cynlluniau datganoli, pydrodd y Gyfnewidfa Lo a throdd y fformiwla yn ffosil.
Er mai enw Joel Barnett sydd ar y fformiwla gweision sifil y trysorlys wnaeth ei lunio ac wrth iddyn nhw wneud hynny fe ofynnodd un gwas bach pa mor fanwl oedd angen bod. Fe drodd yr ateb yn dipyn o ddihareb yng nghoridorau Whitehall "round the Scottish figures up - round them down for Wales".
Mae' frawddeg fach yna wedi costio cannoedd o filiynau o bunnau, os nad biliynau dros y degawdau. Does dim rhyfedd bod Joel barnet yn teimlo braidd yn euog yng nghylch y peth!