C'mon Midffîld

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Ar y cyfan rwy'n un o'r bobl hynny sy'n credu bod gwleidydda yn alwedigaeth digon anrhydeddus. Mae 'na ambell i hurtyn ac ambell i ddihiryn yn y busnes wrth reswm ond mae hynny'n wir ym mhob man.

Ond mae 'na un duedd ddiweddar sydd wedi rhoi tipyn o gnoc i'n goddefgarwch i. Chwe mis yn union cyn yr etholiad cyffredinol nesaf, a hwnnw'n argoeli i fod yn un hynod o agos, mae'n ymddangos i mi bod y Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel ei gilydd wedi rhoi'r gorau i unrhyw ymdrech i apelio at drwch yr etholwyr.

Yn hytrach na gwneud hynny mae'r tair plaid yn canolbwyntio ar ddiogelu eu pleidleisiau craidd tra'n chwilota am bynciau a allai gyffroi pobol â diddordebau arbennig.

Rwyf wedi dewis un o bolisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol fel enghraifft o'r ffenomen - ond mae 'na esiamplau digon tebyg ar gael o'r ddwy blaid arall.

Mae 'na beryg wrth gyffredinoli ond ar y cyfan dyw actifyddion y Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn taro fi fel pobol syn byw a bod er mwyn treulio ei Sadyrnau'n gwylio pêl-droed. Maen nhw'n fwy tebygol o fod mas yn dosbarthu taflenni Ffocws am dri o'r gloch ar brynhawn Sadwrn nac o fod yn bloeddio ar y ref yn y Liberty neu Stadiwm Dinas Caerdydd.

Pam felly y mae'r blaid wedi dechrau bangian ymlaen byth a hefyd ynghylch caniatáu i ddilynwyr pêl droed sefyll i wylio gemau yn y cynghreiriau uwch?

Y rheswm amlwg yw bod 'na filiynau o bobol sydd yn dilyn pêl-droed ac mae nifer fawr ohonyn nhw'n teimlo'n gryf ynghylch y busnes sefyll yna - yn ddigon cryf efallai i'r pwnc ddylanwadu ar eu dewisiadau etholiadol.

O geiniog i geiniog a'r arian yn bunt ac o leiafrif i leiafrif y daw'r sedd yn saff.

Mae 'na rywbeth braidd yn ddigalon ynghylch y math yma o wleidydda. Gan wybod na fyddai'r etholwyr yn credu addewidion mawr na'n cael eu hysbrydoli gan weledigaeth uchelgeisiol does dim dewis ond cardota am bleidleisiau ar y cyrion.

Fe gawn weld llawer mwy o hyn dros y misoedd nesaf hefyd a'r ofn, yn enwedig yn y rhengoedd Llafur, yw na fydd hynny'n ddigon. Dyna sy'n gyrru'r amheuon ynghylch yr arweinyddiaeth ac mae'r amheuon hynny i'w clywed ym Mae Caerdydd yn ogystal â San Steffan.

A fydd unrhyw beth yn dod ohonyn nhw? Fe gawn weld.