Proffwyd yn ei wlad ei hun
- Cyhoeddwyd
- comments
Ychydig iawn o westai, dybiwn i, sy'n dewis addurno'u waliau gyda lluniau o wleidyddion. Roedd y Metropole yn Blackpool arfer gwneud ond gyda'r pleidiau wedi troi eu cefnau ar y dre wrth drefnu eu cynadleddau go brin fod y lluniau o Churchill, Lloyd George a'r gweddill dal yno!
Tipyn o syndod felly oedd sylwi ar y lluniau ar furiau'r County Hotel yn Durham wrth i mi fynychu digwyddiad teuluol yno dros y Sul. Ar hyd mur yr ystafell fwyta roedd 'na gyfres o luniau o fawrion y chwith gan gychwyn gyda Keir Hardie a diweddu gydag Ed Miliband.
O ofyn, ces wybod mai o falconi'r gwesty y mae siaradwyr yn annerch y Durham Miners Gala - digwyddiad sy'n dal i fynd er bod glowyr bron mor brin â dyddiau heulog yn yr ardal y dyddiau hyn!
Fel mae'n digwydd Ed Miliband oedd yr arweinydd Llafur cyntaf i annerch y Gala ers i Neil Kinnock wneud hynny. Does dim syndod efallai nad oedd Tony Blair am fynd ar gyfyl y lle, er bod ei etholaeth tafliad carreg i ffwrdd. Mae'n fwy rhyfedd bod John Smith a Gordon Brown wedi dewis cadw draw.
Am wn i ymgais i brofi ei fod yn gallu canu'r hen ganiadau oedd penderfyniad Ed i fynychu'r digwyddiad ac yn sicr gellir priodoli ei lwyddiant dros ei frawd yn yr etholiad i ddewis arweinydd Llafur at y rheiny oedd yn hiraethu am fath o lafuriaeth oedd yn esgymun yn ystod teyrnasiad Blair.
Fe fyddech chi'n disgwyl mai dyna'r union fath o wleidyddiaeth fyddai'n apelio at yr hen rebel, Paul Flynn ond mae edrych yn ôl ar sut pleidleisiodd Aelodau Seneddol Llafur wrth ddewis arweinydd yn ddadlennol. David Miliband nid Ed oedd dewis aelod Gorllewin Casnewydd. Mwy na hynny Paul oedd yr unig Aelod Seneddol Llafur trwy Brydain gyfan i osod Ed yn y bumed safle ar ei bapur pledileisio.
Pam felly? Ar y pryd dywedodd Paul ei fod yn pleidleisio gyda'i ben yn hytrach na'i galon gan ychwanegu hyn;
"I am supporting David because he has got the mental dexterity, the ability and the gravitas that many of the other candidates don't have."
Nawr, mae rhywbeth ynghylch Paul sydd wastad wedi fy atgoffa o broffwyd Hen Destament. Yn sicr mae'n ymddangos bod ei broffwydoliaeth yn 2010 yn agosach at y gwir na sylwadau ambell i Lafurwr arall. Dyma i chi Albert Owen yn trafod Ed Miliband fel enghraifft;
"He doesn't alienate people in the way that many others in the past and some of these candidates have the potential to do in the future. He is able to explain things and take people with him which is what we need..."
Does wybod wrth reswm a fyddai David Miliband neu un o'r ymgeiswyr eraill wedi profi'n arweinydd mwy effeithiol ar Lafur nac Ed. Yn sicr fe fyddai'r Ceidwadwyr a rhannau o'r wasg wedi lladd ar bwy bynnag oedd wedi ei ddewis.
Serch hynny, y gwir plaen amdani yw bod poblogrwydd personol Ed fel arweinydd yr wrthblaid ar yr un fath o dir ac Ian Duncan Smith a Michael Foot. Dyw hynny ddim yn lle da i fod ar drothwy etholiad.
Yr hyn sy'n syndod yw ei bod hi o hyd yn ddigon posib mai Ed Miliband fydd deiliad nesaf Downing Street oherwydd amgylchiadau unigryw etholiad 2015.
A fydd hynny'n digwydd? Efallai bod Paul Flynn yn gwybod!