Dim Bai ar Dubai
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyw e ddim yn anarferol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol a pholisïau trawiadol ar drothwy etholiad. Mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir os ydy'r etholiad yn argoeli bod yn un agos fel yr un sy'n ein wynebu ni flwyddyn nesaf.
Gyda'r coffrau'n wag mae angen cryn ddychymyg i ddod o hyd i syniadau sy'n ddeniadol ond yn fforddiadwy. Wedi'r cwbwl, fedrwch chi ddim gwario mwy o arian na sydd gyda chi - neu efallai eich bod chi os ydych chi'n digwydd bod yn Ganghellor y Trysorlys!
Un o'r cyhoeddiadau mwyaf rhyfedd yn ystod y dyddiau diwethaf oedd hwnnw gan George Osborne yn awgrymu y dylai'r Deyrnas Unedig sefydlu Cronfa Gyfoeth Sofran tebyg i'r rheiny sydd gan wledydd y Gwlff, Awstralia, Norwy a rhai o daleithiau Canada.
Rhyw fath o gadw mi gei cenedlaethol yw'r cronfeydd hynny - arian sy'n deillio o adnoddau naturiol, olew a nwy gan amlaf, sy'n cael ei gadw wrth gefn ar gyfer y diwrnod pan fydd y diferyn olaf wedi ei odro o'r ddaear.
Mae cronfeydd o'r fath yn bethau digon synhwyrol a hefyd yn fodd i osgoi'r hyn mae economegwyr yn gwlw'n "Dutch disease" - sefyllfa lle mae canfod adnodd naturiol yn niweidio sectorau eraill o'r economi trwy effeithio ar gostau llafur a'r graddfeydd cyfnewid arian.
Mae cyhoeddiad George Osborne yn codi nifer o gwestiynau. Yr un mwyaf amlwg wrth gwrs yw o ble mae'r holl gyfoeth yna i ddod? Wedi'r cyfan, fe sy'n pregethu byth a hefyd ynghylch maint dyledion y wlad a'r angen i dorri'r got yn ôl y brethyn.
Ateb y Canghellor i'r cwestiwn hwnnw yw ffracio. Anghofiwch am yr holl amheuon amgylcheddol ac economaidd mae George Osborne yn hyderus y bydd nwy anghonfensiynol yn drawsnewidiol i'r economi.
Ond os felly ai un gronfa ddylai fod yntau pedair? Wedi'r cyfan mae trwyddedi ffracio yn un o'r pynciau fydd yn cael eu datganoli i'r Alban yn sgil argymhellion Comisiwn Smith. Mae' ddigon posib y bydd yr un pwerau'r dod i Gymru a Gogledd Iwerddon.
Os felly a fyddai sefydlu cronfa gyfoeth Cymreig yn argyhoeddi rhai o'n gwleidyddion i newid eu meddyliau ynghylch y dechnoleg?