Da yw Chwech
- Cyhoeddwyd
- comments
Fel pawb arall mae'n gwleidyddion yn edrych ymlaen at gael hoe dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd cyn wynebu un o'r gornestau etholiadol mwyaf diddorol ers degawdau. Heb os fe fydd etholiad 2015 yn un i'r llyfrau hanes gyda hyd yn oed y seffolegwyr mwyaf peniog yn crafu eu pennau ynghylch yr hyn allai ddigwydd.
Mae 'na etholiadau agos wedi bod o'r blaen wrth gwrs. Dau etholiad 1974 a buddugoliaeth annisgwyl John Major yn 1992 yw'r rhai sy'n neidio i'r cof ond i ddefnyddio hoff gymhariaeth y Democratiaid Rhyddfrydol 'rasys dau geffyl' oedd y rheiny. Mae etholiad 2015 yn edrych yn debycach i'r Grand National bob dydd!
Rwy'n teimlo braidd dros bobol fel Roger Scully wrth iddyn nhw geisio darogan faint o seddi y bydd y gwahanol bleidiau'n ennill ar sail yr arolygon barn diweddaraf. Mae ymdrech diweddaraf Roger i'w ddarllen yn fan hyn, dolen allanol. Cyn i chi ofyn dydw i ddim yn anghytuno a gair sydd ganddo fe i ddweud. Os oedd y newidiadau yn y bleidlais yn digwydd mewn modd unffurf ar draws Cymru fe fyddai'r canlyniad yn un digon tebyg i'r un y mae Roger yn ei ddisgrifio.
Y broblem yw wrth gwrs na fydd y newidiadau'n unffurf y tro hwn. Dyw'r hen swingometer ddim wedi bod yn declyn defnyddiol ers peth amser ond erbyn hyn mae hyd yn oed modelau llawer mwy soffistigedig yn colli eu gwerth. Mewn gwirionedd yr unig ffordd i gael pictiwr da o'r hyn sy'n digwydd mewn etholaeth arbennig yw trwy gomisiynu arolwg barn yno.
Dyma gêm fach i chi felly. Pe bai chi'n gallu comisiynu arolygon barn mewn chwe etholaeth Gymreig pa rai byswch chi'n eu dewis?
Dyma fy newisiadau i - Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Ynys Môn, Llanelli, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Merthyr a Rhymni.
Mae'r ddwy sedd gyntaf yn ddewisiadau amlwg. Mae Aberconwy a Gorllewin Clwyd yn ddiddorol ym mhob etholiad ond rwy'n amau hefyd mai yn y ddwy etholaeth yma y mae gobaith gorau Ukip o gipio sedd yng Nghymru. Fe wnaeth y blaid honno'n arbennig o dda yng ngogledd ddwyrain Cymru yn etholiadau Ewrop ac mae'n bosib ennill sedd sydd eisoes yn ymylol gyda chanran cymharol isel o'r bleidlais.
Rwy'n credu bod penderfyniad arweinyddiaeth Ukip i ganolbwyntio'u hymdrechion ar Alun a Glannau Dyfrdwy yn gamgymeriad strategol. Fe fyddai angen oddeutu deugain y cant o'r bleidlais i gipio honna - canran sylweddol uwch na fyddai ei angen yn y ddwy sedd arall.
Mae Môn a Llanelli ar y rhestr fel dwy sedd lle y gallai perfformiad cryf gan Ukip gosti'n ddrud i Lafur trwy agor cil y drws i Blaid Cymru. Yng Ngorllewin Caerfyrddin ar y llaw arall gallai Ukip anrhegu'r sedd i Lafur.
Tipyn o 'Hail Mary' yw cynnwys Merthyr ar y rhestr. Roeddwn i eisiau cynnwys un o etholaethau'r cymoedd ac mae gen i deimlad yn fy nŵr y gallasai rhywbeth rhyfedd ddigwydd mewn etholaeth lle mae'r ymrwymiad traddodiadol i Lafur wedi bod yn gwanhau ers degawdau.
Mae'n bosib fy mod yn gwbwl anghywir. Fe gawn weld ymhen ugain wythnos.