Mentro Swllt
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyma ni felly, yn ôl wrth y ffas, y morthwyl a'r mandrel yn barod i dorri talpiau wrth i'r etholiad cyffredinol ddod yn nes.
Mae'n debyg eich bod wedi sylwi erbyn hyn bod 'na orfodaeth ar bawb sy'n darogan ynghylch yr etholiad i ddatgan taw hwn yw'r etholiad anoddaf i broffwydo ers tro byd cyn datgan yn blaen taw senedd grog yw'r canlyniad mwyaf tebygol.
Ond y gwir amdani yw bod yr arolygon barn yn rhyfeddol o gyson wrth ddarogan y byddai etholiad heddiw yn gweld Ed Miliband yn Downing Street. Cael a chael byddai hi o safbwynt sicrhau mwyafrif seneddol ond fe fyddai'r fantais Lafur yn ddigon i orfodi i David Cameron bacio'i fagiau.
Coeliwch neu beidio dyw e ddim mor anarferol â hynny i aelodau'r dosbarth gwleidyddol, y gwleidyddion a ni'r newyddiadurwyr fel ein gilydd, anwybyddu'r dystiolaeth o'n blaenau a seilio'r darogan ar ryw fath o 'reddf' neu 'deimlad'.
Yn etholiad 2010, er enghraifft, roedd 'na gonsensws gweddol eang y byddai David Cameron yn llwyddo i ennill mwyafrif er bod yr arolygon barn yn awgrymu'n wahanol. Yr arolygon oedd yn gywir.
Beth sydd wrth wraidd y gagendor hwn rhwng barn y 'bwbwl' a barn y bobl? Mae rhan o'r esboniad yn deillio o'r sylw a roddir i'r marchnadoedd betio a'r gred bod 'na rhyw ddoethineb cyfrin yn eiddo i ddwylo anweledig y farchnad.
Dydw i ddim yn llwyr ddiystyru gwerth cymryd cip ar y marchnadoedd betio - yn enwedig wrth geisio darogan yr hyn sy'n debyg o ddigwydd mewn etholaethau unigol. Yn yr achosion hynny teg yw credu bod y rhan fwyaf o'r betio yn dod oddi mewn i'r etholaeth gan bobol sy'n weddol wybodus ynghylch eu milltir sgwâr.
Mae'r marchnadoedd Prydain gyfan yn fwy o broblem. Y peryg yw y gall trigolion y bwbwl a'r betwyr fwydo oddi ar ei gilydd, gan gryfhau a chadarnhau rhagdybiaethau ei gilydd.
Yn eironig ddigon mae un o'r gwefannau gwleidyddol mwyaf craff a dibynadwy yn un a luniwyd yn benodol i roi cyngor ar fetio. Mae 'Political Betting' yn ddarllen hanfodol i'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr gwleidyddol ond llai felly, mae'n ymddangos, i'r rheiny sy'n mentro'u harian!