O Fryniau Caersalem Ceir Gweled
- Cyhoeddwyd
- comments
Fe fyddai'r naill blaid na'r llall yn cyfaddef hynny wrth reswm ond rhesymol yw credu bod panjyndryms y blaid Lafur a'r Ceidwadwyr wrthi'n paratoi cynlluniau wrth gefn ar gyfer senedd grog.
Yn ôl ym Mai 2010 roedd gan David Cameron gynnig i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei boced cefn pe bai angen un. Doedd Llafur ddim wedi paratoi i'r un graddau. Go brin y bydd y blaid yn gwneud yr un camgymeriad eto.
Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod Llafur yn reddfol yn ei chael hi'n anoddach i rannu grym na'r Ceidwadwyr. Do, fe gafwyd llywodraethau clymblaid cymharol lwyddiannus yng Nghymru a'r Alban ond yn San Steffan ac yn y siambrau cyngor mae'n ymddangos bod Llafur yn ddrwgdybus iawn ynghylch llunio cytundebau trawsbleidiol.
Cymerwch 2008, annus horribilis Llafur Cymru, fel esiampl. Yn etholiadau lleol y flwyddyn honno collodd Llafur ei gafael ar bron bob un o'i chadarnleoedd traddodiadol.
Dim ond Rhondda Cynon Taf a Chastell Nedd Port Talbot oedd yn gadarn yn nwylo Llafur ond hi oedd y blaid fwyaf mewn llwyth o gynghorau eraill. Ym mron pob un o'r cynghorau hynny fe ddiweddodd Llafur i fyny ar feinciau'r gwrthbleidiau naill ai o ddewis neu trwy ddamwain.
Efallai nad yw hi'n syndod bod plaid sydd wedi arfer a grym dilyffethair yn ei chadarnleoedd yn ei chael hi'n anodd i gyfaddawdi ond mae'r amharodrwydd i gydweithio a gwreiddiau dyfnach na hynny.
Go brin fod unrhyw agwedd ar hanes Cymru wedi cael mwy o sylw gan haneswyr na thwf y mudiad llafur yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae 'na gymdeithas a chyfnodolyn cyfan sy'n canolbwyntio ar y pwnc - ond teg yw dweud bod y mwyafrif llethol o'r haneswyr sy'n gweithio yn y maes yn astudio'r pwnc o bersbectif y mudiad ei hun.
Ceir persbectif ychydig yn wahanol gan Robert Pope yn ei lyfr "Building Jerusalem". Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi colli'r llyfr pan gyhoeddwyd e gyntaf yn ôl yn 1998. Fe'i ailgyhoeddwyd y llynedd ac mae'n werth ei ddarllen i unrhyw un sydd â diddordeb yn ein hanes gwleidyddol neu grefyddol.
Edrych ar dwf y mudiad llafur o bersbectif y capeli mae Pope gan ddefnyddio'r wasg Gymraeg ac enwadol fel ei brif ffynonellau. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth honno bod hyder, hyfdra hyd yn oed, y blaid Lafur yna o'r dechrau'n deg.
Cafwyd enghraifft berffaith o hynny yn 1911 pan drefnodd yr enwadau anghydffurfiol ynghyd a'r Anglicaniaid gynhadledd yng Nghaerdydd i drafod problemau cymdeithasol yr oes a'u perthynas a'r mudiad Llafur.
Ar y pryd rodd gan Lafur bum aelod seneddol yng Nghymru o gymharu â chwech ar hugain o Ryddfrydwyr. Beth oedd ymateb y mudiad llafur felly? Yn rhesymegol fe fyddai rhywun yn disgwyl i egin blaid fechan neidio ar y cyfle i gydweithio a sefydliadau cymdeithasol mwyaf grymus Cymru er mwyn gwella cyflwr y dosbarth gwaith.
Nid felly y bu pethau. Yn hytrach troi ar y gynhadledd wnaeth Lafur gan gyhuddo'r trefnwyr o geisio troi pob capel yn glwb Rhyddfrydol. Roedd y neges yn un amlwg. Mae croeso i chi'n cefnogi ni - ond dim ond ar ein telerau ni!
O fewn cwta pymtheg mlynedd roedd Llafur ar frig y domen a'r capeli a'u cannoedd o filoedd o aelodau wedi colli bron y cyfan o'u dylanwad gwleidyddol.
Beth sydd a wnelo digwyddiadau 1911 a gwleidyddiaeth 2015? Dim ond hyn. Ar ddiwedd y dydd mae pob plaid a mudiad yn gymuned - cymuned sy'n trosglwyddo ei gwerthoedd a'i diwylliant o un genhedlaeth i'r nesaf. Pe bawn i'n gorfod dewis arwyddair i grisialu'r diwylliant Llafur Cymru ar hyd y ganrif ddiwethaf "ar ein telerau ni" fyddai hwnnw. Dyw cydweithio a chyfaddawd ddim yn rhan o DNA Llafur Cymru.
Dyw'r "ar ein telerau ni" ddim yn arwyddair addas iawn ar gyfer gwleidyddiaeth amlbleidiol y ganrif hon. Efallai y bydd pethau'n newid. Efallai'n wir y bydd yn rhaid iddyn nhw.