Je Suis Jac
- Cyhoeddwyd
- comments
Dydw i ddim yn sicr ydy'r haeriad nad oes gan Gymru ddiwylliant gweledol yn cyfri fel ystrydeb neu ddarn o enllib. Yn sicr mae hanes cartwnau yng Nghymru yn hwy ac yn fwy anrhydeddus nac y byddai rhai'n ei gredu.
Ymddangosodd y cartŵn Cymraeg cyntaf y gwyddir amdano yn 1798 fel clawr lun "Cwyn yn erbyn Gorthrymder" un o'r pamffledi mwyaf radicalaidd a chwyldroadol i'w gyhoeddi yn y Gymraeg erioed. Thomas Robert, Llwynrhudol oedd awdur y pamffled ond eiddo Jac Glanygors oedd y cartŵn.
Ymddiddan rhwng offeiriad boliog, bochgoch a bodlon yn casglu'r degwm a hen wraig dlawd yw'r cartŵn. O gefn ei geffyl mae'r offeiriad yn datgan "nid ne ydyw lle dyn llwm, oni ddwg i mi ddegwm" gan ennyn ymateb cellweirus gan y wraig "Eich bygad yw debygwn, Byd da, yn y bywyd hwn."
Oce, gwnes i ddim chwerthin chwaith - ond nid dyna'r pwynt. Fy mhwynt yw bod hanes cartwnau yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill yn rhan annatod o'n hanes gwleidyddol. Nid pethau ymylol ydyn nhw ac nid pobol ymylol yw'r rheiny sy'n arddel y grefft o'u llunio.
Mae gen i deimlad y byddai Jac Glanygors a chartwnwyr Charlie Hebdo wedi dod ymlaen yn dda 'da'i gilydd. Fel Jac, roedd artistiaid Charlie yn mwynhau tynnu blew o drwynau sefydliadau crefyddol ond bwyell ddeufin yw'r cartŵn - gellir ei ddefnyddio i amddiffyn y sefydliad yn ogystal â'u herio.
Os am brawf o hynny mae'n werth cymryd cipolwg ar waith Joseph Morewood Staniforth (JMS), y cartwnydd Cymreig mwyaf llwyddiannus erioed oedd yn cyhoeddi ei waith yn y 'Western Mail' a'r 'News of the World'.
Mae'r rhan fwyaf o gartwnau JMS o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi eu digideiddio gan Brifysgol Caerdydd. Gellir eu gweld yn fan hyn, dolen allanol a does dim angen edrych ar lawer ohonyn nhw er mwyn synhwyro fod yr artist wedi llwyr ymroi i ledaenu neges y cynghreiriad.
Nid bod hynny'n golygu mai propagandydd oedd JMS. Fel trwch y boblogaeth, mae'n debyg ei fod yn wirioneddol credu bod y Rhyfel Mawr yn fater o ddu a gwyn, da a drwg. I ni heddiw, mae ei waith yn agos ffenest i feddylfryd y cyfnod.
Tybed beth fydd barn cenedlaethau'r dyfodol am feddylfryd y rheiny oedd yn credu bod cynnwys ambell i gartŵn yn haeddu dedfryd o farwolaeth? Mae'n anodd i ni ddeall eu cymhellion nhw heddiw. Gydag unrhyw lwc fe fydd eu gweithredodd yn gwbl annealladwy i'r rheiny sy'n dod ar ein holau.