Testun Dadlau

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae'r dadleuon teledu rhwng Jack Kennedy a Richard Nixon yn 1960 yn rhan o chwedloniaeth wleidyddol erbyn hyn. Rwy'n cymryd bod y rhan fwyaf o bobl sy'n darllen y blog hwn yn gyfarwydd â'r hyn ddigwyddodd. Roedd y rheiny wnaeth wrando ar y ddadl gyntaf ar y radio o'r farn bod Nixon wedi ennill y dydd. Roedd y rheiny oedd wedi gweld y Gweriniaethwr chwyslyd a di-golur ar y teledu yn credu taw Kennedy oedd y buddugwr.

Mae'n debyg bod y 'fuddugoliaeth' honno yn ffactor allweddol mewn etholiad a enillwyd gan Kennedy o drwch blewyn - er bod a wnelo gallu Maer Chicago i stwffio blychau pleidleisio'r ddinas honno rywbeth a'r peth hefyd!

Mae'n ffaith fach ddiddorol na chynhaliwyd dadl deledu arall fel rhan o etholiad arlywyddol tan 1976. Gwrthododd LBJ gymryd rhan yn 1964 ac efallai ei bod yn ddealladwy bod Nixon wedi gwrthod yn 1968 a 1972!

Fedrwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd 'na ddadleuon teledu cyn etholiad cyffredinol eleni felly. Fe fydd y darlledwyr yn gwneud eu gorau glas i sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnal ond does dim modd gorfodi i unrhyw un ymddangos.

Y broblem sylfaenol wrth gwrs yw nad yw'r amgylchiadau lle mae cynnal dadleuon o'r fath yn siwtio pawb yn codi'n aml. Prif Weinidog y dydd sy'n gwrthod gan amlaf. O 1964 ymlaen roedd hi'n ddefod ym mhob etholiad cyffredinol i arweinydd yr wrthblaid herio'r Prif Weinidog i ddadlau gan wybod yn iawn mai 'na' fyddai'r ateb. Ond er bod yr ateb negyddol i'w ddisgwyl - roedd y cyhuddiad o lyfrdra yn ei sgil yn arf fach handi i'r wrthblaid.

Mae'n debyg bod Tony Blair wedi cael cythraul o sioc yn 1997 pan dderbyniodd John Major yr her. Ond er bod 'na gytundeb mewn egwyddor yn yr ymgyrch honno doedd 'na ddim dadleuon i fod. Methwyd cytuno ar y fformat ac fe aeth y cynlluniau i'r gwellt. Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd rhywsut!

Cyfuniad o Brif Weinidog mewn trafferth ac arweinydd gwrthblaid oedd yn hyderus, yn orhyderus efallai, ynghylch ei sgiliau teledu oedd yn gyfrifol am esgor ar ddadleuon 2010. Yr eironi yw wrth gwrs mai'r trydydd arweinydd, yr un dyn bach ar ôl, oedd yr un wnaeth fanteisio fwyaf ar y cyfle.

A fydd 'na raglenni ffurfiol eleni felly? Yr ateb syml i hynny yw dydw i ddim yn gwybod ond mentraf ddweud hyn.

Ac eithrio 1960 does 'na ddim tystiolaeth bod y dadleuon arlywyddol yn yr Unol Daleithiau wedi effeithio ar ganlyniad etholiad. Mae perfformiad da yn gallu rhoi hwb i ymgeisydd ond mae'r effaith yn tueddu disbyddu'r weddol fuan. Dyna ddigwyddodd i 'Clegmania' hefyd. Mae dadlau ynghylch dadlau hyd yn oed yn llai tebygol o gael effaith. Taw pia'i hi!