Da yw Swllt

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Fe rybuddiais i wythnos yn ôl ynghylch peryglon darllen gormod o'r marchnadoedd betio - yn enwedig y rheiny sy'n ymwneud a thueddiadau Prydain gyfan. Rhaid cofio mai adlewyrchu barn y rheiny sy'n mentro swllt mae'r marchnadoedd - nid adlewyrchu'r farn gyhoeddus.

Ar ôl dweud hynny mae ambell beth difyr yn digwydd ar y marchnadoedd ar hyn o bryd. Beth am fentro mewn felly yng nghwmni yn ein hen gyfaill, Karl y bwci?

Mae un fet arbennig wedi taro Karl sef y pris sy'n cael ei gynnig gan Coral ar gyfer y rheiny sy'n dymuno betio y bydd Nigel Farage yn Brif Weinidog ar ôl yr etholiad. 16-1 yw'r pris hwnnw. Mae Karl, a minnau o ran hynny, yn credu bod y pris hwnnw yn wallgof. 33-1 yw'r pris sy'n cael ei gynnig gan y rhan fwyaf o'r bwcis eraill. Mae Karl o'r farn y byddai 1600-1 yn fwy rhesymol ond mae'n amau bod y bwcis wedi gweld arian mawr yn cael ei fuddsoddi ar Ukip mewn etholaethau unigol a bod hynny wedi codi braw arnyn nhw.

Mae prisiau Ukip hefyd wedi bod yn gostwng yn gyflym yma yng Nghymru. Rhai wythnosau yn ôl roedd modd ennill wyth bunt trwy fentro punt y byddai Ukip yn ennill o leiaf un sedd yng Nghymru. Mae'r fet honno wedi llwyr ddiflannu o'r marchnadoedd.

Ym mron pob un o etholaethau Cymru mae pris Ukip wedi haneri yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Karl wedi sylwi ar dair sedd lle mae'n ymddangos bod symiau sylweddol wedi eu buddsoddi ar y Ffarajwyr. Ym Mlaenau Gwent mae pris Ukip wedi gostwng o 50-1 i 10-1 ac yng Nghwm Cynon a De Caerdydd a Phenarth mae'r prisiau wedi gostwng o 100-1 i 16-1.

Fel mae eraill wedi nodi, yr unig ostyngiad cyffelyb i un o'r pleidiau eraill yw'r gostyngiad ym mhris Plaid Cymru yn Llanelli. Feifar am bob punten yw'r wobr sydd ar gael yn nhre'r sosban os ydych chi'n ffansio'r cenedlaetholwyr.

Ond gadewch i ni gofio mai Llafur yw'r ffefrynnau clir ym mhob un o'r seddi yma o hyd. 1-5 yw pris llafur yn Llanelli, er enghraifft. Serch hynny mae'r ffaith bod symiau difrifol o arian yn cael eu buddsoddi yng nghadarnleoedd Llafur traddodiadol yn ddiddorol a dweud y lleiaf.