Nid Aur yw Popeth Melyn

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae'n ystrydeb bron i ddweud mai gornest rhwng y gwan bydd etholiad 2015. O gymryd bod yr arolygon barn yn weddol o agos ati gallwn ddisgwyl etholiad lle bydd y gefnogaeth i'r tair plaid fawr Brydeinig yn hanesyddol o isel.

Mae'r polau wedi bod yn awgrymu hynny ers tro byd. Serch hynny, ces i dipyn o sioc o weld canlyniad arolwg diweddaraf Ashcroft, dolen allanol. Mae hwnnw'n awgrymu bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr a Llafur fel ei gilydd yn llai na deg ar hugain y cant tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y pumed safle gyda llai o gefnogaeth nac Ukip a'r Gwyrddion.

I raddau wrth gwrs fe fydd ein system etholiadol cyntaf i'r felin yn amddiffyn y ddwy blaid fwyaf. Hyd yn oed os ydy eu perfformiad yn anemig o safbwynt pleidleisiau gallwch fentro y bydd y Torïaid a Llafur yn parhau i ddominyddu ar y meinciau gwyrddion. Ond beth am y drydedd blaid 'fawr' - y Democratiaid Rhyddfrydol? Faint o'r rheiny fydd ar ôl ymhen deunaw mis, tybed?

Y peth cyntaf i nodi yw bod y blaid yn gweithio'n galed i reoli disgwyliadau trwy fynnu wrth unrhyw un sy'n fodlon gwrando y byddai dal deg ar hugain o'r pumdeg chwe sedd bresennol yn rhyw fath o fuddugoliaeth. Mae 'na beth gwirionedd yn hynny ond mae hyd yn oed y targed hwnnw'n uchelgeisiol. Er mwyn ei gyrraedd mae'r blaid yn canolbwyntio bron y cyfan o'u hymdrechion ar y seddi hynny gan aberthu'r gweddill i gyd - gan gynnwys nifer o'r rhai sy'n eiddo i'r blaid ar hyn o bryd.

Yma yng Nghymru mae hynny'n golygu arllwys popeth mewn i bedair sedd - y tair sydd yn eu meddiant yn barod ynghyd â Maldwyn. Fe fydd seddi lle ddaeth y blaid yn agos at ei hennill tro diwethaf - llefydd fel Gorllewin Abertawe a Dwyrain Casnewydd yn cael eu haberthu yng ngoleuni'r realiti gwleidyddol.

Gallasai gwneud hynny greu problem arall i'r blaid. O esgeuluso'r etholaethau hynny o ble daw'r pleidleisiau rhestr angenrheidiol yn etholiad y Cynulliad? Mewn geiriau eraill gallai'r tactegau cywir ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol arwain at drychineb yn etholiad y Cynulliad.

Gadewch i ni felly ystyried dwy senario bosib - y gorau a'r gwaethaf y gallaf ddychmygu i'r blaid dros y deunaw mis nesaf.

Cyn yr etholiad diwethaf cefais bryd o dafod gan Lembit Opik am feiddio awgrymu y gallai fe fod mewn trafferth ym Maldwyn. Fi oedd yn gywir. Rwy'n fodlon rhoi fy mhen ar y bloc eto a dweud mai gwag yw gobeithion y blaid ym Maldwyn y tro hwn. Fe fyddai hi'n dipyn o wyrth hefyd pe bai'r blaid yn cadw ei gafael ar ganol Caerdydd. Mae Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed yn edrych yn fwy addawol - ond dyw'r naill na'r llall yn ddiogel.

O safbwynt etholiad y Cynulliad fe ddylai Brycheiniog a Maesyfed fod yn ddiogel ac mae'n bosib y gallai'r blaid oroesi yng Nghanol De Cymru. Y tu hwnt i hynny, os nad oes newid sylfaenol yn yr hinsawdd wleidyddol, Ukip yn cwympo'n ddarnau, dyweder, mae'n anodd gweld o ble y daw buddugoliaethau. Dyw dwy sedd ddim yn ddigon i sicrhau statws grŵp yn y Cynulliad.

Nawr, fel chwilod duon mae gallu'r Rhyddfrydwyr i oroesi yn ddiarhebol - ond ar ôl colli cymaint o dir mewn llywodraeth leol mae'r blaid yn wynebu sefyllfa lle gallasai ffrwyth degawdau o waith ar lawr gwlad gael ei disbyddu bron yn llwyr,

Mae'r blaid wedi bod mewn tyllau felly o'r blaen ac wedi goroesi bob tro. Mae'n debyg y bydd hi'n goroesi eto ond fe fydd hyd y broses o ail-adeiladu ac atgyfodi yn dibynnu'n llwyr ar gyfres o ganlyniadau trwch blewyn dros y deunaw mis nesaf.