Rhosyn a Rhith

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae gan y llinellau "Yn nwfn swyn ei fynwes, O caf lonydd, caf le i huno!" arwyddocâd arbennig yn hanes y Gymraeg. Darn o awdl gan Ben Bowen sydd i'w weld ger cofeb Tryweryn yw'r geiriau, mae'n debyg, ond mae eu pwysigrwydd yn deillio o'r ffaith mae'r rheiny oedd y geiriau Cymraeg cyntaf i ymddangos ar y rhyngrwyd.

Yn ôl y rheiny sydd wedi ymchwilio i'r peth un o weithwyr AT&T yn New Jersey oedd yn gyfrifol am y post. Chwilio am gyfieithiad nid creu hanes oedd ei fwriad ond hanes a greuwyd. Y pymthegfed o Awst 1989 oedd y dyddiad - dyddiad geni'r rhith fyd Cymraeg.

Un o ganlyniadau hynny oedd atgyfodi'r gair 'rhith' o gefn y geiriadur! Erbyn hyn yr ydym yn son am y rhith gof, rhith storfa a rhith beiriant bron heb feddwl ynghylch y peth. Ond ydy hi'n bryd i 'rhith' gyrraedd y geiriadur gwleidyddol hefyd? Oes 'na fath beth a 'rhith blaid' erbyn hyn?

Os ydy'r arolygon barn yn gywir pe bai 'na etholiad cyffredinol yfory fe fyddai rhyw un o bob pump o bleidleiswyr Cymru yn bwrw eu pleidleisiau dros un o ddwy blaid sy prin yn bodoli ar lawr gwlad.

Hyd y cofiaf i, dyw Ukip na'r Blaid Werdd erioed wedi ennill yr un sedd gyngor yng Nghymru. John Bufton a Nathan Gill yw'r unig Ukipwyr i'w hethol i unrhyw beth a gall y Gwyrddion hawlio hanner Cynog Dafis!

Nid y cyfryngau cymdeithasol yw'r unig ffactor sy'n cyfrannu at dwf y rhith bleidiau. Mae gan y cyfryngau traddodiadol eu rhan hefyd ac wrth gwrs mae cynnwys y rheiny yn adlewyrchu'r ffaith bod y ddwy blaid yn magu gwreiddiau go iawn yn rhannau o Loegr. Nid rhith blaid yw Ukip yng Nghaint ac Essex a phlaid go iawn yw'r Gwyrddion yn Brighton a Bryste.

Ond yma yng Nghymru faint o lwyddiant y gall y ddwy blaid ddisgwyl gyda'u trefniadaeth mor dila ar hyd y ffyrdd a'r caeau? Mae'n amlwg nad yw trefniadaeth leol yn cyfri rhyw lawer mewn etholiadau Ewropeaidd. Mae etholiad lle does 'na fawr o ymgyrchu lleol, lle mae'r canran sy'n pleidleisio yn isel a system gyfrannol yn bodoli, yn siwtio rhith bleidiau i'r dim. Ennill sedd seneddol mewn etholiad cyffredinol yw'r talcen mwyaf caled, dybiwn i. Mae'n anodd i rith blaid gyrraedd y felin cyn y ffermwyr traddodiadol!

Fe fyddai'n rhyfeddod i mi pe bai naill ai Ukip neu'r Blaid Werdd yn dod yn agos at ennill sedd yng Nghrymu ym Mis Mai - a mwy na thebyg llond dwrn o lwyddiannau fydd 'na yn Lloegr - os hynny.

Mae etholiad Cynulliad 2016 yn fater arall. Heb newid yn yr hinsawdd wleidyddol mae'n debyg y bydd Ukip yn cymryd lle'r Democratiaid Rhyddfrydol fel pedwaredd blaid y Cynulliad flwyddyn nesaf. Mae'n werth cofio hefyd bod y Blaid Werdd wedi dod yn weddol agos at ennill sedd rhestr yn 2011.

Y cwestiwn strategol i'r rhith bleidiau yw hyn. Ai canolbwyntio ar y seddi rhestr sydd orau neu a ddylid ceisio magu gwreiddiau trwy enwebu ymgeiswyr etholaethol hefyd? Yn y tymor byr yr opsiwn gyntaf sydd orau ond os am symud i'r byd go iawn o fyd y VR oni ddylid derbyn yr her etholaethol? Dyna i chi gwestiwn gan y VR hwn!