Gair o Gyngor

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Rhai blynyddoedd yn ôl penderfynodd fy nghefnder sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Cyngor Sir Powys. Roedd yr ardal lle mae'n byw wedi ei chynrychioli gan yr un cynghorydd ers blynyddoedd ac roedd fy nghefnder o'r farn y dylai rhyw un ei herio. Y deiliad oedd yn fuddugol gan lwyddo i argyhoeddi'r etholwyr bod fy mherthynas yn rhy ifanc a dibrofiad i ymgymryd â'r gwaith. Roedd fy nghefnder yn drigain ar y pryd!

Mae'n bosib mai sefyllfaoedd felly oedd ym meddwl Leighton Andrews wrth iddo awgrymu y gellid cyfyngu ar y nifer o dymhorau y gall cynghorwyr wasanaethu. Mae'r cyfyngiad arfaethedig yn un cymharol hael. Fe fyddai cynghorwyr yn cael gwasanaethu am chwarter canrif cyn cael eu gorfodi i roi'r ffidl yn y to neu'r brysgyll ar y bwrdd neu beth bynnag mae cynghorwyr yn gwneud wrth ildio'u seddi.

Mae'r rhesymeg yn apelgar. Mae'n siambrau cyngor hyd yn tueddu bod yn llawn o ddynion gwyn sydd wedi rownd y bloc fwy nac unwaith. Cofiwch chi, dyw pethau ddim cynddrwg ac oedden nhw. Roedd hen gyngor Morgannwg Ganol yn atgoffa dyn o Fryn Awelon yn nyddiau Jacob Ellis a Dai Tushingham gydag ambell i Bella Thomas yn cynnig yr unig fath o amrywiaeth ar y cyngor. Diolch byth does dim llefydd felly ar ôl bellach ond dyw'n cynghorau ddim y chwaith yn adlewyrchiad teg o'r gymuned.

Ond ai cyfyngu ar dymhorau yw'r ateb? Ydy hi'n deg neu'n ddemocrataidd i'r gyfraith rwystro etholwyr rhag ethol pwy bynnag y maen nhw'n dymuno i gyngor?

Mae'r cwestiwn yna'n arbennig o berthnasol yn achos cynghorwyr annibynnol sydd wedi ennill ei seddi ar sail eu rhinweddau personol. Os ydy'r etholwyr yn gytûn mai Jac Llwyncelyn neu Twm Cwmsgwt yw'r dyn i'w cynrychioli oes hawl foesol gan Leighton Andrews i orfodi i Jac a Twm ddychwelyd i'w tyddynnod?

Os ydy cynghorydd, ar y llaw arall, wedi ei ethol dro ar ôl tro yn enw plaid mewn ardal lle mae gwisgo'r rhoséd gywir yn gwarantu llwyddiant efallai'n wir y dylai'r blaid honno weithredu er mwyn cyflwyno ychydig o waed newydd i'r cyngor. Ond onid mater i'r pleidiau a'u rheolau mewnol yw hynny?