Let's Mynd

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dwn i ddim os ydych chi wedi dod ar draws yr idion "let's mynd" sy'n gyffredin ymhlith plant y de ddwyrain y dyddiau hyn. Mae'n golygu 'bant a ni' ac rwy'n cyfaddef fy mod yn eithaf hoff ohoni. Wedi'r cyfan rhywbeth i ddweud wrth eich cyfoedion nid athro yw 'let's mynd' ac mae'n fwy o arwydd o iaith fyw nag o iaith sâl.

Mae 'na ryw awyrgylch 'let's mynd' o gwmpas y Cynulliad ar hyn o bryd. Dyw'r lle ddim wedi cyrraedd lefel sombiaeth San Steffan ond mae bron pob peth sy'n cael ei wneud neu ei ddweud ac un llygad ar Fai'r 7fed.

Cymerwch enghraifft. Yr wythnos hon pleidleisiodd Llafur o blaid cynnig gan Blaid Cymru ynghylch ffracio yn y Cynulliad. Roedd y cynnig hwnnw yn "galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus."

Mae hynny'n newid polisi pur sylweddol gan Lafur. Cyn hyn galw am ddatganoli'r grym dros ffracio a chadw meddwl agored ynghylch y broses oedd safbwynt y Llywodraeth. Pam y newid? Fe gewch chi farnu ond dyma oedd ymateb un o'r cwmnïau ffracio.

"Politicians ought to stop their pre-election political posturing and think about what the large majority of people in Wales really need i.e. a good stable income, not what will win votes."

Efallai bod pwynt gan y cyfaill. Wedi'r cyfan er nad yw goruchwyliaeth dros ffracio wedi ei ddatganoli gallai'r Llywodraeth wneud pethau'n llawer iawn anoddach i'r cwmnïau ynni trwy newid y cyngor swyddogol a roddir i adrannau cynllunio - y TAN. Hyd yma mae'r Llywodraeth wedi dewis peidio gwneud hynny.

A fydd y Llywodraeth yn gwneud hynny nawr? Fe gawn weld. Efallai y bydd yn rhaid aros am ychydig. TAN ar ôl yr etholiad, efallai!