Bydd yn Wrol

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Efallai eich bod yn cofio mai'r pechod pennaf yng ngolwg yr hen Syr Wmffra ar 'Yes Minister' oedd dewrder. Roedd modd goroesi penderfyniadau ffôl neu anghywir ond roedd gwleidydd oedd yn mynnu gwneud penderfyniad 'dewr' ar ei ffordd i ddifancoll.

Ystyriwch felly taflen etholiad sydd newydd ddod i law. Taflen ar ran Madeleine Moon, Aelod Seneddol Pen-y-bont yw hi. Mae'n amlwg o safon y dylunio a'r argraffu mai taflen a gynhyrchwyd yn lleol yw hon ond mae'r cynnwys yn hynod ddiddorol.

O dan y pennawd "Myths + Facts" ceir dadl fanwl o blaid ymfudo gan ddefnyddio ystadegau i herio rhai o ddadleuon y rheiny sy'n credu bod 'na ormod o dramorwyr yn ymsefydlu ym Mhrydain. Sonnir am gyfraniad economaidd y mewnfudwyr, cyn lleied ohonyn nhw sydd yn hawlio budd-daliadau a chynigir esboniadau eraill am rai o'r problemau y mae ymfudwyr yn cael eu beio amdanynt.

Dydw i ddim am fynd trwy'r dadleuon yn fanwl ond mae'n amlwg mai ymateb i fygythiad Ukip y mae Llafur yn fan hyn. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod y blaid leol wedi penderfynu gwneud hynny trwy sefyll ar dir y gelyn a chynnig dadl bositif o blaid mewnfudo yn hytrach na phorthi rhagfarnau.

Nid fy lle i yw barnu ai Llafur neu Ukip sy'n gywir ynghylch y pwnc hwn ond fe ddywedaf hyn. Mae mynd benben ac Ukip ynghylch ymfudo yn beth dewr i wneud ac yn wahanol i Syr Wmffra rwy'n edmygu dewrder gwleidyddol.

Mae hi hefyd yn bosib bod hon yw'r dacteg effeithiol.

A fyddai'r etholwyr yn credu neu'n ymddiried mewn gwleidydd Llafur oedd yn ceisio cyflwyno rhyw neges 'Ukip-lite'? Mae ambell un wedi ceisio gwneud hynny heb fawr o lwyddiant.

Onid gwell yw dweud 'yma y safaf, ni allaf wneud dim arall'?