Yr Argyfwng Gwacter Ystyr
- Cyhoeddwyd
- comments
Hoffech chi wybod cyfrinach fach? Mae'n gyfrinach yr ydym ni'r newyddiadurwyr gwleidyddol a'n cyfeillion seffolegol yn ceisio cadw'n dawel yn ei gylch mewn ymdrech i gynnau diddordeb yn yr ymgyrch etholiad ddiddiwedd yma.
Dyma hi. Does dim byd yn digwydd. Dim. Er cymaint ymdrechion y pleidiau a holl sylw'r cyfryngau erys yr arolygon barn yn ddigyfnewid gyda Llafur a'i thrwyn ar y blaen o drwch blewyn.
Cafwyd ychydig o gyffro rhai dyddiau yn ôl pam awgrymodd arolwg gan ICM i'r Guardian bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr wedi cynyddu chwech y cant dros y mis diwethaf. Roedd y gleision yn gorfoleddu a'r cochion yn crynu nes i ddau arolwg arall awgrymu bod y Guardian ar gyfeiliorn.
Roedd y bennod fach yna yn brawf o un o reolau euraidd dadansoddi gwleidyddol - mai'r pôl sy'n denu'r sylw fwyaf yn debyg iawn o fod yn anghywir. Rwy'n gosod arolwg TNS i'r Times a gyhoeddwyd heddiw sy'n dangos Llafur saith y cant ar y blaen i'r Ceidwadwyr yn yr un dosbarth ac un y Guardian. Oes 'na air Cymraeg am 'outlier', dywedwch?
Rwy'n dechrau amau bod cacen etholiad 2015 eisoes wedi ei phobi. Mae'r cynhwysion, cyflwr yr economi, chwalfa'r Democratiaid Rhyddfrydol, y dirmyg tuag at Miliband, twf yr SNP a'r gweddill i gyd wedi eu cymysgu a'u crasu. Oni cheir sioc fawr allanol, rhywbeth y tu hwnt i reolaeth y pleidiau, fe fydd y canlyniad a'r Fai'r 8fed rhywbeth yn debyg i'r hyn mae'r arolygon yn awgrymmu ar hyn o bryd.
Dyma chi gyfrinach fach arall. Nid fi yw'r unig un sy'n teimlo felly. Dyna yw'r farn gyffredinol ymhlith y gwleidyddion rwy'n siarad â nhw hefyd.
Nid bod hynny'n rhoi esgus i laesu dwylo. Mae pob pleidlais yn cyfri mewn etholiad agos a phob sedd yn cyfri mewn senedd grog.
Dyw e ddim yn golygu chwaeth na fydd yr etholiad yn un pwysig. Yn achos yr Alban mae'n debyg mae hwn yw'r etholiad pwysicaf ers canrif a mwy ond y canlyniadau sy'n bwysig nid yr ymgyrch.
Am ddisgrifiad o honna, y cyfan medraf i ei wneud yw dyfynnu un Albanwr dychmygol - It is a tale told by an idiot, full of sound and fury, signifying nothing.