Hwrê rŵan Cwmderi!
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwedd pennod yn llythrennol yng Nghwmderi. Yr wythnos hon bydd Meic Pierce, un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y gyfres, yn ffarwelio â'r Cwm ar ôl 40 mlynedd ym mhentre' enwocaf Cymru.
Mae ganddo atgofion melys... a chwerw o'i gyfnod fel perchennog caffi, landlord Y Deri Arms a threfnydd teithiau Deri Deithio. Cyn gadael am Batagonia, bu Meic yn rhannu ei deimladau gyda Cymru Fyw:
'Dilyn fy nhrwyn'
Meddyliau'r foment dwi am eu teipio'n fan'ma. Ffotograff du a gwyn yn cipio'r eiliad fydd y blog hwn. Mae hyn yn ddiléit gen i fel 'dach chi sy'n ymwybodol o fy ngyrfa fel ffotograffydd yn Llundain yn gw'bod. Dyna pam i mi groesi'r bont am y tro cyntaf yn hogyn ifanc. Roedd y penderfyniad i symud i Lundain yn un rhesymegol, ond dilyn fy nhrwyn i Gwmderi nes i.
Feddylish i erioed wrth gerddad i mewn i'r Deri un p'nawn gwlyb yn 1975, y byddwn yn treulio cynifer o flynyddoedd hapus fy mywyd yn eistedd ar y ddwy ochr o'r bar. Rhyfadd ydi meddwl yn ôl ar y cyfnod yn Llundain rŵan a thrio dychmygu lle fyddai trywydd fy mywyd wedi cael ei arwain pe tawn yn ymwybodol o feichiogrwydd Mair James, mam Gabriela.
Celwyddau
Nid hap a damwain ydi bod dwy o famau fy mhlant (Anita hefyd) wedi penderfynu celu'r gwir am eu beichiogrwydd oddi wrthyf, ac un arall (Nansi) wedi rhoi ein mab Kevin i gael ei fabwysiadu. Nid oeddwn ddyn da bryd hynny, ond dwi'n ddyn llawer callach o fod wedi byw yng Nghwmderi.
Dwi'n grediniol erbyn hyn fod rhywbeth yn y dŵr yno. Er fy mod wedi mynnu cyhyd mai hogyn o Sir Fôn ydw i, mae atgofion Llanfair Mathafarn Eithaf yn bell yn y cof erbyn hyn wedi i mi dreulio'r rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn yma.
Mae gen i ormod o atgofion melys i'w hadrodd ym mlwch cyfyngedig y blog hwn, ond gobeithiaf yn ystod yr wythnosau nesaf y bydd fy edmygedd atoch oll yn cael eu hamlygu mewn amrywiol a dirgel ffyrdd.
Ffarwelio
Rhywbeth hynod od ydi ffarwelio. Mae'n rhywbeth a wnawn yn ddyddiol, mor ddi-hid. "Hwrê rŵan" wrth adael y Deri ar ôl peint o chwerw, wrth gerdded allan o'r caffi wedi paned a chlonc, ac wrth dwn i'm faint o bobl ar y ffôn yn Deri Deithio bob dydd.
Ond mae'r cysyniad o'r ffarwel olaf wedi chwarae tipyn ar fy meddwl ers i mi ddarganfod fy mod yn marw o ganser.
Mae'n rhywbeth mor bendant. Mor derfynol. Ond wedi pendroni am hyn wrth bysgota a dychmygu Denz wrth fy ochr dro ar ôl tro, sylweddolais nad terfynol oedd ei ymadawiad â'r cwm wedi'r cwbl. Mae Denz wrth fy ochr o hyd. Nid oes modd osgoi'r bennod hon mewn cyfrol, ond mae modd sicrhau nad honno yw'r olaf hefyd.
Mae'r tacsi'n aros, a sawl pennod ar ôl i'w hysgrifennu yn y gyfrol hon! Hwrê rŵan!