Gwnewch y Pethau Pitw

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Fe fydd Cymru yn cyrraedd carreg milltir cyfansoddiadol ymhen rhai dyddiau wrth i ganlyniad trafodaethau trawsbleidiol ynghylch cryfhau'r Cynulliad gael ei gyhoeddi. Dyma i chi benllanw proses a lansiwyd gan David Cameron drannoeth refferendwm yr Alban ar garreg ei ddrws yn Downing Street. Addawyd cwblhau'r gwaith cyn diwrnod ein nawdd sant.

Go brin y bydd bryncyn yn codi o dan draed Cameron, Stephen Crabb neu bwy bynnag sy'n rhannu cynnwys Datganiad Gŵyl Dewi a'r genedl. Rwy'n fodlon mentro hefyd na fydd colomen yn disgyn ar ysgwydd y negesydd i arwyddo cyfnod o heddwch a sefydlogrwydd cyfansoddiadol.

Ond dyna oedd yr addewid. Gadewch i ni gofio geiriau Stephen Crabb mewn araith yn ôl ym mis Tachwedd llynedd.

"...the story of Welsh devolution has long been one of fixes, fudges and political expediency. Of falling short, and thinking short-term. We need to end the process of constantly tinkering with the devolution settlement. Let's get devolution right. For the longer-term."

Beth fedrwn ni ddisgwyl felly? Wel, yn barod mae'r sibrydion yn dechrau. 'Dylai neb ddisgwyl gormod' medd rai, 'does 'na fawr ddim o unrhyw werth' myn eraill.

Yn wir, o ddarllen rhwng y llinellau, yr hyn a gawn ni yw 'fix, fudge and political expediency'!

Fe fydd y Cynulliad yn derbyn mwy o bwerau dros ynni, yn cael yr hawl i redeg ei system etholiadol ei hun a'r hawl i newid ei enw o 'gynulliad' i 'senedd' os ydy'r lle yma'n dymuno gwneud hynny.

Mewn cyfres o feysydd eraill lle'r oedd Llywodraeth Cymru wedi chwennych pwerau ychwanegol fe fydd 'na ddim byd yn newid.

Yr hen air 'consensws' yna sy'n gyfrifol. Mae mynnu cael consensws llwyr o reidrwydd yn golygu bod gan bawb pŵer feto. Yn ôl fy ffynonellau i, ac maen nhw'n rhai da roedd y Ceidwadwyr a Llafur San Steffan yn ddigon parod i ddefnyddio'r pwerau hynny.

Yn ôl y chwedl "gwnewch y pethau bychain mewn bywyd" oedd neges olaf Dewi Sant i ni'r Cymry. Mae'n ymddangos bod ein gwleidyddion wedi ymateb trwy wneud rhywbeth pitw iawn.