Ac eto, Carmel
- Cyhoeddwyd
- comments
Weithiau rwy'n cael fy synnu gan yr ymateb i rywbeth rwyf wedi ysgrifennu yn fan hyn. Cafwyd enghraifft o hynny'n ddiweddar pan ysgrifennais bwt bach i nodi bod capel Carmel, Gwauncaegurwen, y capel olaf yng Nghwmgors a'r Waun wedi datgorffori.
Ymhlith y nifer sylweddol wnaeth ymateb oedd trysorydd y capel, Myrddin Morgan, oedd yn ddigon caredig i fy ngwahodd i gymryd cipolwg ar y lle tra ei fod e o hyd yn nwylo'r diaconiaid. Afraid ddweud bod yr ymweliad hwnnw yn brofiad chwerw melys ond anodd fyddai anghytuno â phenderfyniad yr aelodau.
Fe fyddai wedi bod yn bosib i'r eglwys barhau am rai blynyddoedd eto ond gyda'r adeilad yn dirywio a'r gynulleidfa yn heneiddio - at ba ddiben? Gyda'r achos wedi dathlu ei phen-blwydd yn 250 gwell oedd dirwyn pethau i ben yn drefnus yn amserol.
Mae cau achos, yn enwedig un o achosion yr Annibynwyr, yn gallu bod yn fusnes cymhleth, gan fod y berchnogaeth a'r statws gyfreithiol yn aml yn annelwig. Yn achos Carmel mae'n anodd rhagweld llawer o ddyfodol i'r adeilad. Dyw'r tir o dan y capel ddim yn eiddo i'r eglwys a mwy na thebyg fy fydd yn cael ei ddychwelyd at y rhydd-ddeiliaid.
Does 'na ddim penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud eto ond mae'n bosib y bydd yr asedau sy'n weddill yn cael eu defnyddio i sefydlu gardd goffa a'r safle'r achos gwreiddiol, Hen Garmel, lle mae cenedlaethau o Annibynwyr y cylch wedi eu claddu. Gobeithir trosglwyddo'r safle i ofalaeth y cyngor lleol.
A dyna ni. Wel, ac eithrio un peth. Fe soniais yn y post gwreiddiol bod un arall o gapeli'r ardal, Tabernacl, Cwmgors wedi ei gau a'i werthu yn ôl yn 2010 ond bod fawr ddim wedi digwydd ers hynny o safbwynt cynnal neu adfer yr adeilad.
Rwy'n ddiolchgar i Myrddin Morgan am dynnu fy sylw at ffaith nad oeddwn yn ymwybodol ohoni. Mae'r Tabernacl wedi ei restri fel adeilad Gradd 2*. Dim ond pump eglwys anghydffurfiol yng Nghymru sydd wedi eu rhestri fel safleoedd Gradd 1 sef Maesyronnen, Tabernacle Treforus, Jerusalem Bethesda, Peniel Tremadog a Chapel Newydd, Llanengan.
Mae Tabernacl, Cwmgors yn yr ail reng felly. Mae hynny rhyfedd braidd gan fod Tabernacl yn dyddio o'r ugeinfed ganrif. Dyma'r rheswm a roddwyd gan Cadw, dolen allanol pan restrwyd yr adeilad yn ôl yn 2000.
"Graded II* as an exceptional example of the work of one of the leading chapel architects of the early C20, unusual in his work in combining free Gothic exterior and classically-derived interior detail. Unusual also in being a chapel of quality and scale in one of the smaller coalfield communities. Exceptionally high quality woodwork to the interior."
Does gen i ddim clem beth yw cyflwr mewnol Tabernacl erbyn hyn, ond roedd e'n bur druenus pan gaewyd y lle.
Y cwestiwn sy gen i yw hwn felly. Beth yw pwynt rhestru adeilad os nad oes 'na ymdrech i blismona'r hyn sy'n digwydd iddo?