Oui Oui Si Si Ja Ja
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n debyg eich bod chi wedi sylwi bod BBC Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg barn heddiw. Hwn yw'r diweddaraf yn y gyfres fwyaf hirhoedlog o arolygon barn yng Nghymru. Lansiwyd arolwg barn Gŵyl Ddewi'r BBC yn ôl yn 1980au ac am gyfnod hwnnw oedd yr unig arolwg barn pennodol Gymreig.
Lobscows o arolwg yw hwn mewn gwirionedd. Mae 'na un neu ddau o gwestiynau'n cael eu gofyn yn flynyddol sef y rheiny ynghylch datganoli. Am y gweddill, wel, y gwir amdani yw ein bod yn gofyn pa bynnag gwestiynau sy'n ein taro fel rhai difyr a diddorol ar y pryd.
A ninnau ar drothwy etholiad cyffredinol does dim syndod taw'r casgliadau ynghylch poblogrwydd cymharol David Cameron ac Ed Miliband sydd wedi hawlio'r penawdau heddiw ond mae 'na un canlyniad arall sy'n drawiadol iawn i mi, sef hwnnw ynghylch Ewrop.
Roedd 63% o'r rheiny a holwyd yn credu bod y Deyrnas Unedig yn elwa o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Dim ond 33% oedd o'r farn y byddai'r DU yn elwa o fod y tu allan i'r Undeb.
Mae'r ffigyrau yna'n wahanol iawn i arolygon eraill sydd wedi gofyn ynghylch bwriadau pleidleisio mewn refferendwm Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r rheiny wedi awgrymu bod 'na fwyafrif bychan yng Nghymru o blaid aros yn yr Undeb. Fis Ionawr, er enghraifft, awgrymodd YouGov y byddai pobol Cymru yn pleidleisio o 44% i 36% o blaid parhau'n aelod o'r Undeb.
Yn fy marn i mae a wnelo'r gwahaniaeth rhwng yr arolwg diweddaraf a'i ragflaenwyr lawer â'r union gwestiwn a ofynnwyd.
Fe ddefnyddiodd yr arolygon blaenorol cwestiwn safonol sef hwn; "If there was a referendum on Britain's membership of the European Union, how would you vote?"
Yn ein harolwg ni eleni fe ofynnwyd y cwestiwn mewn ffordd ychydig bach yn wahanol er mwyn ceisio adlewyrchu'r sefyllfa a fyddai'n bodoli pe bai refferendwm yn cael ei chynnal. Hwn oedd y cwestiwn a ofynnwyd gan ICM ynghyd â'r canlyniadau.
The UK government has announced plans to renegotiate the terms of the UK's membership of the EU. Which one of these statements comes closest to your view?
On balance I believe the UK would be better off remaining in the EU 63%
On balance I believe the UK would be better off outside the EU 33%
Don't know 4%
Mae 'na ddau beth i ddweud yn fan hyn. Yn gyntaf mae'r canran o'r rheiny oedd yn ansicr llawer iawn yn is nac mewn arolygon eraill ac mae'n amlwg bod cynnwys yr addewid o ail-negodi yn y cwestiwn wedi cael effaith sylweddol ar y canlyniad.
A dyma i chi ffaith fach ddifyr arall. Ar Fehefin 5ed, 1975, ar ol proses o ail-negodi cynhaliwyd refferendwm ynghylch aelodaeth Prydain o'r Farchnad Gyffredin. Dyma oedd y canlyniad yng Nghymru;
O blaid; 64.85
Yn erbyn; 35.2%
Mae 'na rywbeth cyfarwydd iawn ynghylch y ffigyrau yna!