Dwi Isio Bod Yn Sais
- Cyhoeddwyd
- comments
Fe ddywedodd Cadeirydd y Ceidwadwyr Grant Shapps rywbeth rhyfedd iawn y bore 'ma. Rwy'n sicr nad fi yw'r unig un sy'n crafu ei ben ynghylch union ystyr y geiriau hyn.
"Alex Salmond is threatening to undermine a government chosen by the British people. This is a man who lost his battle in Scotland but is now determined to bring chaos and insecurity to the rest of the country".
Ar yr olwg gyntaf dyw'r geiriau ddim yn gwneud llawer o synnwyr. Wedi'r cyfan fe fyddai gan lywodraeth oedd 'wedi ei dewis gan bobol Prydain' fwyafrif. Byddai dim modd i Alex Salmond na neb arall ei thanseilio. Dyna yw hanfod ein system seneddol.
Beth ar y ddaear sydd ar feddwl Mr Shapps felly? Beth am newid un gair yn y dyfyniad uchod?
Alex Salmond is threatening to undermine a government chosen by the English people. This is a man who lost his battle in Scotland but is now determined to bring chaos and insecurity to the rest of the country".
O leiaf mae hynny'n gwneud rhyw fath o synnwyr ond os mai dyna oedd ar feddwl Mr Shapps mae'n golygu un o ddau beth. Naill ai mae'n un o'r bobl hynny sy'n cael trafferth gwahanu rhwng y geiriau 'Lloegr' a 'Phrydain' neu mae e wedi dewis cofleidio cenedlaetholdeb Seisnig trwy ddadlau na ddylai pobl Lloegr gael eu llywodraethu gan Lywodraeth nad ydynt wedi ei hethol.
Beth bynnag yw'r esboniad mae'n ymddangos i mi bod ymateb y Ceidwadwyr i dwf yr SNP yn awgrymu bod platiau tectonig yr Undeb yn symud unwaith yn rhagor. Onid yw dadlau nad oes gan etholwyr yr Alban yr hawl i ddylanwadu ar bwy sydd yn rhif deg, Downing Street, yn gyfystyr â chyfaddef bod yr Undeb yn nesáu at ei derfyn?
Mae'n ymddangos bod rhiw ymbellhau feddyliol ar y gweill ac nid dim ond ymhlith y dosbarth gwleidyddol. Yn ôl arolwg barn diweddar gan Brifysgol Caeredin mae 69% o bobl yr Alban yn rhagweld y bydd yr Alban yn wlad annibynnol rhywbryd yn y dyfodol. Mae mwyafrifoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd yn credu y bydd hynny'n digwydd.
Ble mae hynny'n gadael Cymru fach? Does dim arwydd o unrhyw gynnydd sylweddol yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn fan hyn - ond efallai nad mater i ni fydd hynny.
Ddydd Sul fe fydd cyn Brif Weinidog a sylfaenydd gwladwriaeth Singapore Lee Kuan Yew yn cael ei gladdu. Pam crybwyll hynny yn fan hyn? Am y rheswm hwn, Singapore yw'r unig wlad yn y byd wnaeth ganfod ei hun yn annibynol yn groes i'w gwirfodd. Nid dewis gadael Malaysia wnaeth Singapore - ond cael ei thaflu allan. Gallai hynny ddigwydd i Gymru? Mae unrhyw beth y bosib y dyddiau hyn!