Diabetes: 'Angen gweithredu'
- Cyhoeddwyd
Mae astudiaeth newydd yn dweud bod angen gweithredu er mwyn gostwng nifer y plant sydd â diabetes math 1 sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty.
Daw'r rhybudd wrth i nifer yr achosion o'r fath gynyddu 3% neu 4% bob blwyddyn.
Plant sy'n 15 oed ac iau sydd fwyaf tebygol o orfod mynd i'r ysbyty, yn ogystal â phlant sydd o gefndiroedd difreintiedig.
Mae academyddion sy'n trin y cyflwr yn dweud fod "rheolaeth wael" mewn rhai sefyllfaoedd yn gallu arwain at argyfyngau meddygol.
Mae llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i wella'r sefyllfa.
Pan fo gan rywun glefyd siwgr math 1, dyw'r pancreas ddim yn cynhyrchu digon o inswlin, ac mae'n fwy cyffredin mewn plant na math 2, yn ôl gwefan y gwasanaeth iechyd.
Mae arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bryste, Prifysgol Bangor ac Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd wedi bod yn edrych ar ddata 95% o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sydd â diabetes math 1.
'Cymorth i deuluoedd'
Dywedodd yr Athro Reinhard Holl, arbenigwr diabtetes pediatrig o Brifysgol Ulm (Yr Almaen): "Mae triniaeth ysbyty yn cadw plant allan o'r ysgol ac i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau.
"Yn ogystal, mae'r gost i'r system gofal iechyd yn uchel, arian y dylid ei fuddsoddi i wella rheoli cleifion allanol parhaus a rhoi cymorth i deuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan gyflyrau o'r math yma."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tuag at ariannu'r gwaith ymchwil, a oedd yn astudiaeth o 1,577 o blant sydd â'r cyflwr.
Maen nhw hefyd wedi lansio strategaeth Cynllun Gweithredu Diabetes, i wella gofal iechyd.
"Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i wasanaethau plant yn ein cynllun diabetes, a sefydlu rhwydwaith diabetes pediatrig i Gymru gyfan, fel y gall pob un o'r 14 canolfan rannu'r gwaith ymchwil diweddaraf a sicrhau eu bod i gyd yn cynnig yr un gofal o ansawdd uchel," ychwanegodd llefarydd.