Peintio'r Byd yn Wyrdd

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Ar ddiwedd y 1970au derbyniodd Plaid Cymru gais braidd yn rhyfedd gan grŵp o bobol o Coventry yng nghanolbarth Lloegr. Roedd y grŵp yn bwriadu sefydlu plaid wleidyddol newydd a fyddai'n wrth niwclear tra'n cefnogi heddychiaeth a datganoli. "People" oedd enw'r blaid newydd i fod ac roeddynt yn awyddus i gydweithio â chenedlaetholwyr Cymru a'r Alban.

Mae'r blaid honno yn bodoli hyd heddiw. Y Blaid Werdd yw ei henw hi erbyn hyn.

Un o ddirgelion gwleidyddiaeth Cymru yw gwendid cymharol y Gwyrddion. Wedi'r cyfan mae gan y mudiad amgylcheddol wreiddiau dyfnion yng Nghymru. Mae modd dadlau mai yn fan hyn y cafodd ei eni.

Roedd y Ganolfan Dechnoleg Amgen blynyddoedd o flaen ei hamser wrth ymchwilio i ffynonellau ynni cynaliadwy. Daeth y mudiad hunan gynhaliaeth i fod ar fferm Fachongle Isaf yng Ngwm Gwaun ac nid nepell i ffwrdd, ym Mhentref Ifan, roedd Satish Kumar yn golygu'r cylchgrawn 'Resurgence', cylchgrawn ecolegol mwyaf dylanwadol y saithdegau.

Pam felly nad yw'r blaid wedi gwneud marc gan fethu adeiladu'r fath o rwydwaith o ganghennau a chynghorwyr sy'n bodoli erbyn hyn yn Lloegr a'r Alban?

Plaid Cymru yw rhan o'r rheswm - yn enwedig yn y Gymru wledig. Mae nifer sylweddol o'r union bobl fyddai'n asgwrn cefn i Blaid Werdd lwyddiannus yn dewis cefnogi Plaid Cymru tra mae'r rhai sy ddim, ar adegau, yn gallu ymddangos yn 'drefedigaethol' braidd yn llygaid eu cymdogion.

Cafwyd enghraifft o'r agwedd honno yn 1990 pan benderfynodd Gwyrddion Cymru beidio ag ymwahanu o'r blaid yn Lloegr ar un pryd a Gwyrddion yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Priodas ansicr iawn felly oedd honno wnaeth arwain at ethol Cynog Dafis yn 1992 ac at fawr ddim byd arall.

A fydd pethau yn newid yn yr etholiad hwn?

Fe fyddai achub ambell i ernes yn cyfri fel rhiw fath o fuddugoliaeth ond digon tila fyddai hynny o gymharu â llwyddiannau'r Blaid yn yr Alban a Lloegr.

Y gwir amdani, mae'n debyg, yw taw rhestrau rhanbarthol y Cynulliad yw gobaith gorau'r blaid o dorri trwyddo. Fe arllwysodd y Blaid popeth oedd ganddi mewn i Ganol De Cymru yn 2011 heb fawr o lwyddiant.

Gallasai canlyniadau da ar Fai'r 7fed gosod sylfaen ar gyfer ymdrech fawr yn 2016 ond ar ôl gwylio'r Gwyrddion am ddegawdau dydw i ddim yn dal fy anadl.