Leanne a Lawr
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n gynnar efallai i ddechrau meddwl beth fydd effaith etholiad eleni ar etholiad cynulliad flwyddyn nesaf. Serch hynny gallwch fentro bod ambell i un, gyda gwleidyddion y Cynulliad yn eu plith, wedi dechrau gwneud.
Mae llawer yn dibynnu ar bwy sydd ar ben y domen ar ddiwedd yr ornest bresennol. Does dim angen bod yn athrylith wleidyddol i synhwyro y byddai gan Lafur lawer gwell siawns o sicrhau mwyafrif yn y Bae pe bai David Cameron o hyd yn brif weinidog. Wrth reswm dydw i ddim yn awgrymu am eiliad y byddai unrhyw un yn y rhengoedd Llafur yn gweld hwnnw fel pris gwerth ei dalu!
Mae'n bosib, er yn annhebyg efallai, y byddai Ed Miliband o hyd yn mwynhau ychydig o fis mel gwleidyddol ym Mai 2016 pe bai'n Brif Weinidog. Ond hyd yn oed yn yr amgylchiadau hynny fe fyddai'n anoddach i Lafur beio toriadau San Steffan am benderfyniadau amhoblogaidd yn y Bae.
Heb os byddai'r geiriau "five years of Con-Dem government" yn cael eu hadrodd ac arddeliad ond dyw gelyn sydd eisoes wedi ei drechu ddim yn gymaint o fwgan ac un sydd o hyd ar ei draed.
Mae 'na un ffactor arall fydd yn effeithio ar etholiad 2016 pwy bynnag sydd yn Downing Street. Y ffordd y mae digwyddiadau eleni wedi gweddnewid proffeil Lianne Wood yw'r ffactor honno.
Byth ers i Rhodri Morgan gael ei ddyrchafu'n Brif Weinidog yn y flwyddyn 2000 mae yntau a'i olynydd Carwyn Jones wedi bod pen ac ysgwydd yn fwy poblogaidd nac unrhyw wleidydd arall yng Nghymru. Yng ngeiriau un o'n academyddion mae'r ddau yn cyrraedd lefelau poblogrwydd arweinwyr Comiwnyddol Dwyrain Ewrop ers talwm ac yn gwneud hynny heb bwyntio gwn at yr etholwyr!
Nid rhinweddau Carwyn a Rhodri sy'n llwyr gyfrifol am eu poblogrwydd. Ymddengys bod nifer sylweddol ohonom yn ei hoffi oherwydd ein bod yn eu gweld nhw fel ein 'bois ni'. Mae'r awydd i'w canmol yn deillio o'r un symbyliad sy'n ein darbwyllo i weiddi dros Jade Jones yn y cylch Taekwondo neu bleidleisio dros Joe Woolford yn y Voice.
Ond yn 2016 fe fydd Leanne Wood yn gallu hawlio mai hi yw "Llais Cymru". Yn wir mae'n disgrifio hun felly'n barod. Mae strategaeth Plaid Cymru yn 2016 yn ddigon amlwg felly. Fe fydd hi'n ceisio fframio'r etholiad fel gornest arlywyddol rhwng Carwyn Jones a Leanne Wood gan anwybyddu'r pleidiau eraill er mai un o'r rheiny yw'r wrthblaid swyddogol. Gallwch fentro y bydd eich cyfryngau cymdeithasol yn llawn o #TeamLeanne, #Leanne2016 a'u tebyg ymhen deuddeg mis.
Pwy sy'n gyfrifol am hyn oll? Yn eironig ddigon, gall David Cameron hawlio'r clod neu'r bai. Ei ymdrechion yntau i danseilio'r dadleuon teledu wnaeth arwain at gynnig y bocs sebon i Leanne
Dyna i chi reswm arall i bobl Llafur drwglicio'r dyn.